|
| 1 |
|
| Dyma genedlaethau meibion Noa, sef Sem, Cham a Jaffeth. Ganwyd iddynt feibion wedi'r dilyw. |
|
| 2 |
|
| Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras. |
|
| 3 |
|
| Meibion Gomer: Ascenas, Riffath, a Togarma. |
|
| 4 |
|
| Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Cittim, a Dodanim; |
|
| 5 |
|
| o'r rhain yr ymrannodd pobl yr ynysoedd. Dyna feibion Jaffeth yn eu gwledydd, pob un yn l ei iaith a'i lwyth, ac yn eu cenhedloedd. |
|
| 6 |
|
| Meibion Cham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan. |
|
| 7 |
|
| Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan. |
|
| 8 |
|
| Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear. |
|
| 9 |
|
| Yr oedd yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD; dyna pam y dywedir, "Fel Nimrod, yn heliwr cryf gerbron yr ARGLWYDD." |
|
| 10 |
|
| Dechreuodd ei frenhiniaeth gyda Babel, Erech, Accad a Calne yng ngwlad Sinar. |
|
| 11 |
|
| Aeth allan o'r wlad honno i Asyria ac adeiladu Ninefe, Rehoboth-ir, Cala, |
|
| 12 |
|
| a Resen, dinas fawr rhwng Ninefe a Cala. |
|
| 13 |
|
| Yr oedd Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim, |
|
| 14 |
|
| Pathrusim, Casluhim a Cafftorim, y daeth y Philistiaid ohonynt. |
|
| 15 |
|
| Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth; |
|
| 16 |
|
| hefyd y Jebusiaid, Amoriaid, Girgasiaid, |
|
| 17 |
|
| Hefiaid, Arciaid, Siniaid, |
|
| 18 |
|
| Arfadiaid, Semariaid, a Hamathiaid. Wedi hynny gwasgarwyd teuluoedd y Canaaneaid, |
|
| 19 |
|
| ac estyn eu ffin o Sidon i gyfeiriad Gerar, hyd Gasa; ac i gyfeiriad Sodom, Gomorra, Adma, a Seboim, hyd Lesa. |
|
| 20 |
|
| Dyna feibion Cham, yn l eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd 'u gwledydd a'u cenhedloedd. |
|
| 21 |
|
| I Sem hefyd, tad holl feibion Heber, brawd hynaf Jaffeth, ganwyd plant. |
|
| 22 |
|
| Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffaxad, Lud, ac Aram. |
|
| 23 |
|
| Meibion Aram: Us, Hul, Gether, a Mas. |
|
| 24 |
|
| Arffaxad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber. |
|
| 25 |
|
| I Heber ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd. |
|
| 26 |
|
| Joctan oedd tad Almodad, Saleff, Hasar-mafeth, Jera, |
|
| 27 |
|
| Hadoram, Usal, Dicla, |
|
| 28 |
|
| Obal, Abimael, Seba, |
|
| 29 |
|
| Offir, Hafila, a Jobab; yr oeddent oll yn feibion Joctan. |
|
| 30 |
|
| Yr oedd eu tir yn ymestyn o Mesa i gyfeiriad Seffar, i fynydd-dir y dwyrain. |
|
| 31 |
|
| Dyna feibion Sem, yn l eu llwythau a'u hieithoedd, ynghyd 'u gwledydd a'u cenhedloedd. |
|
| 32 |
|
| Dyma lwythau meibion Noa, yn l eu hachau, yn eu cenhedloedd; ac o'r rhain yr ymrannodd y cenhedloedd dros y ddaear wedi'r dilyw. |
|
|
|
|