1
Wedi'r pethau hyn, daeth gair yr ARGLWYDD at Abram mewn gweledigaeth, a dweud, "Nac ofna, Abram, myfi yw dy darian; bydd dy wobr yn fawr iawn."
2
Ond dywedodd Abram, "O Arglwydd DDUW, beth a roddi i mi, oherwydd rwy'n para'n ddi-blant, ac etifedd fy nhu375? yw Eleasar o Ddamascus?"
3
Dywedodd Abram hefyd, "Edrych, nid wyt wedi rhoi epil i mi; a chaethwas o'm tu375? yw f'etifedd."
4
Yna daeth gair yr ARGLWYDD ato a dweud, "Nid hwn fydd d'etifedd; o'th gnawd dy hun y daw d'etifedd."
5
Aeth ag ef allan a dywedodd, "Edrych tua'r nefoedd, a rhifa'r sr os gelli." Yna dywedodd wrtho, "Felly y bydd dy ddisgynyddion."
6
Credodd Abram yn yr ARGLWYDD, a chyfrifodd yntau hyn yn gyfiawnder iddo.
7
Yna dywedodd wrtho, "Myfi yw'r ARGLWYDD, a ddaeth thi o Ur y Caldeaid, i roi'r wlad hon i ti i'w hetifeddu."
8
Ond dywedodd ef, "O Arglwydd DDUW, sut y caf wybod yr etifeddaf hi?"
9
Dywedodd yntau wrtho, "Dwg imi heffer deirblwydd, gafr deirblwydd, hwrdd teirblwydd, turtur a chyw colomen."
10
Daeth 'r rhain i gyd ato, a'u hollti'n ddau a gosod y naill ddarn gyferbyn 'r llall; ond ni holltodd yr adar.
11
A phan fyddai adar yn disgyn ar y cyrff byddai Abram yn eu hel i ffwrdd.
12
Fel yr oedd yr haul yn machlud, syrthiodd trymgwsg ar Abram; a dyna ddychryn a thywyllwch dudew yn dod arno.
13
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, "Deall di i sicrwydd y bydd dy ddisgynyddion yn ddieithriaid mewn gwlad nad yw'n eiddo iddynt, ac yn gaethweision, ac fe'u cystuddir am bedwar can mlynedd;
14
ond dof barn ar y genedl y byddant yn ei gwasanaethu, ac wedi hynny dnt allan gyda meddiannau lawer.
15
Ond byddi di dy hun farw mewn tangnefedd, ac fe'th gleddir mewn oedran teg.
16
A dychwelant hwy yma yn y bedwaredd genhedlaeth; oherwydd ni chwblheir hyd hynny ddrygioni'r Amoriaid."
17
Yna wedi i'r haul fachlud, ac iddi dywyllu, ymddangosodd ffwrn yn mygu a ffagl fflamllyd yn symud rhwng y darnau hynny.
18
Y dydd hwnnw, gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod ag Abram a dweud: "I'th ddisgynyddion di y rhoddaf y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates."
19
Dyna wlad y Ceneaid, y Cenesiaid, y Cadmoniaid,
20
yr Hethiaid, y Peresiaid, y Reffaimiaid,
21
yr Amoriaid, y Canaaneaid, y Girgasiaid, a'r Jebusiaid.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004