1
Nid oedd plant gan Sarai gwraig Abram, ond yr oedd ganddi forwyn o Eifftes, o'r enw Hagar.
2
Dywedodd Sarai wrth Abram, "Edrych yn awr, y mae'r ARGLWYDD wedi rhwystro imi ddwyn plant. Dos at fy morwyn; efallai y caf blant ohoni hi." Gwrandawodd Abram ar Sarai.
3
Wedi i Abram fyw am ddeng mlynedd yng ngwlad Canaan, cymerodd Sarai gwraig Abram ei morwyn Hagar yr Eifftes, a'i rhoi'n wraig i'w gu373?r Abram.
4
Cafodd ef gyfathrach Hagar, a beichiogodd hithau; a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, aeth ei meistres yn ddibris yn ei golwg.
5
Yna dywedodd Sarai wrth Abram, "Bydded fy ngham arnat ti! Rhoddais fy morwyn yn dy fynwes, a phan ddeallodd ei bod yn feichiog, euthum yn ddibris yn ei golwg. Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom."
6
Dywedodd Abram wrth Sarai, "Edrych, y mae dy forwyn dan dy ofal; gwna iddi fel y gweli'n dda." Yna bu Sarai yn gas wrthi, nes iddi ffoi oddi wrthi.
7
Daeth angel yr ARGLWYDD o hyd i Hagar wrth ffynnon ddu373?r yn y diffeithwch, wrth y ffynnon sydd ar y ffordd i Sur.
8
A dywedodd wrthi, "Hagar forwyn Sarai, o ble y daethost, ac i ble'r wyt yn mynd?" Dywedodd hithau, "Ffoi yr wyf oddi wrth fy meistres Sarai."
9
A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi, "Dychwel at dy feistres, ac ymostwng iddi."
10
Dywedodd angel yr ARGLWYDD hefyd wrthi, "Amlhaf dy ddisgynyddion yn ddirfawr, a byddant yn rhy luosog i'w rhifo."
11
A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrthi: "Yr wyt yn feichiog, ac fe esgori ar fab; byddi'n ei alw yn Ismael, oherwydd clywodd yr ARGLWYDD am dy gystudd.
12
Asyn gwyllt o ddyn a fydd, a'i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn ef, un yn byw'n groes i'w holl gymrodyr."
13
A galwodd hi enw'r ARGLWYDD oedd yn llefaru wrthi yn "Tydi yw El-roi", oherwydd dywedodd, "A wyf yn wir wedi gweld Duw, a byw ar l ei weld?".
14
Am hynny galwyd y pydew Beer-lahai-roi; y mae rhwng Cades a Bered.
15
Ac esgorodd Hagar ar fab i Abram; ac enwodd Abram y mab a anwyd i Hagar yn Ismael.
16
Yr oedd Abram yn wyth deg a chwech oed pan anwyd iddo Ismael o Hagar.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004