Wrth edrych, gwelodd bydew yn y maes, a thair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho, gan mai o'r pydew hwnnw y rhoid du373?r i'r diadelloedd. Yr oedd carreg fawr ar geg y pydew,
a phan fyddai'r holl ddiadelloedd wedi eu casglu yno, byddai'r bugeiliaid yn symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi du373?r i'r defaid, ac yna'n gosod y garreg yn l yn ei lle ar geg y pydew.
A phan welodd Jacob Rachel ferch Laban brawd ei fam, a defaid Laban brawd ei fam, nesaodd Jacob a symud y garreg oddi ar geg y pydew, a rhoi du373?r i braidd Laban brawd ei fam.
Pan glywodd Laban am Jacob, mab ei chwaer, rhedodd i'w gyfarfod, a'i gofleidio a'i gusanu, ac aeth ag ef i'w du375?. Adroddodd yntau'r cwbl wrth Laban,
Pan ddaeth y bore, gwelodd Jacob mai Lea oedd gydag ef; a dywedodd wrth Laban, "Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud mi? Onid am Rachel y gweithiais? Pam y twyllaist fi?"
Beichiogodd Lea ac esgor ar fab, a galwodd ef Reuben; oherwydd dywedodd, "Y mae'r ARGLWYDD wedi gweld fy ngwaradwydd, ac yn awr bydd fy ngu373?r yn fy ngharu."
Beichiogodd eilwaith ac esgor ar fab, a dywedodd, "Y mae'r ARGLWYDD wedi clywed fy mod yn cael fy nghasu, a rhoddodd hwn i mi hefyd." A galwodd ef Simeon.
Beichiogodd drachefn ac esgor ar fab, a dywedodd, "Yn awr, o'r diwedd fe unir fy ngu373?r mi, oherwydd rhoddais iddo dri mab." Am hynny galwodd ef Lefi.