Yn nyddiau'r cynhaeaf gwenith aeth Reuben allan a chael mandragorau yn y maes, a'u rhoi i Lea ei fam. Yna dywedodd Rachel wrth Lea, "Rho imi rai o fandragorau dy fab."
Ond dywedodd hithau wrthi, "Ai peth dibwys yw dy fod wedi cymryd fy ngu373?r? A wyt hefyd am gymryd mandragorau fy mab?" Dywedodd Rachel, "o'r gorau, caiff Jacob gysgu gyda thi heno yn dl am fandragorau dy fab."
Pan oedd Jacob yn dod o'r maes gyda'r nos, aeth Lea i'w gyfarfod a dweud, "Gyda mi yr wyt i gysgu, oherwydd yr wyf wedi talu am dy gael mandragorau fy mab." Felly cysgodd gyda hi y noson honno.
Yna dywedodd Lea, "Y mae Duw wedi rhoi imi waddol da; yn awr, bydd fy ngu373?r yn fy mharchu, am imi esgor ar chwech o feibion iddo." Felly galwodd ef Sabulon.
ychydig oedd gennyt cyn i mi ddod, ond cynyddodd yn helaeth, a ben-dithiodd yr ARGLWYDD di bob cam. Yn awr, onid yw'n bryd i mi ddarparu ar gyfer fy nheulu fy hun?"
A chei dystiolaeth i'm gonestrwydd yn y dyfodol pan ddoi i weld fy nghyflog. Pob un o'r geifr nad yw'n frith a broc, ac o'r u373?yn nad yw'n ddu, bydd hwnnw wedi ei ladrata gennyf."
Gosododd y gwiail yr oedd wedi eu rhisglo yn y ffosydd o flaen y praidd, wrth y cafnau du373?r lle byddai'r praidd yn dod i yfed. Gan eu bod yn beichiogi pan fyddent yn dod i yfed,
Byddai Jacob yn didol yr u373?yn, ond yn troi wynebau'r defaid tuag at y rhai brith a'r holl rai duon ymysg praidd Laban; gosodai ei braidd ei hun ar wahn, heb fod gyda phraidd Laban.
Bob tro yr oedd y defaid cryfaf yn beichiogi, yr oedd Jacob yn gosod y gwiail yn y ffosydd gyferbyn 'r praidd, er mwyn iddynt feichiogi o flaen y gwiail,