Yna dywedodd Jwda wrth ei ferch-yng-nghyfraith Tamar, "Aros yn weddw yn nhu375? dy dad nes i'm mab Sela dyfu"; oherwydd yr oedd arno ofn iddo yntau hefyd farw fel ei frodyr. Felly aeth Tamar i fyw yn nhu375? ei thad.
tynnodd wisg ei gweddwdod oddi amdani, a gwisgo gorchudd a'i lapio amdani. Yna aeth i eistedd wrth borth Enaim ar y ffordd i Timnath; oherwydd yr oedd yn gweld bod Sela wedi dod i oed ac nad oedd hi wedi ei rhoi'n wraig iddo.
Trodd ati ar y ffordd a dweud, "Tyrd, gad i mi gael cyfathrach thi." Ond ni wyddai mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi. Atebodd hithau, "Beth a roi di imi, os cei gyfathrach mi?"
Gofynnodd yntau, "Beth a rof iti'n wystl?" Atebodd hithau, "Dy sl a'r llinyn, a'th ffon sydd yn dy law." Wedi iddo eu rhoi iddi, cafodd gyfathrach hi, a beichiogodd hithau.
Ymhen tri mis dywedwyd wrth Jwda, "Bu Tamar dy ferch-yng-nghyfraith yn puteinio, ac y mae wedi beichiogi hefyd mewn godineb." Dywedodd Jwda, "Dewch hi allan, a llosger hi."
A phan ddaethant hi allan, anfonodd at ei thad-yng-nghyfraith i ddweud, "Yr wyf yn feichiog o'r gu373?r biau'r rhain." A dywedodd hefyd, "Edrych, yn awr, eiddo pwy yw'r rhain, y sl a'r llinyn a'r ffon."