Atebasant hwythau, "Holodd y dyn ni'n fanwl amdanom ein hunain a'n teulu, a gofyn, 'A yw eich tad eto'n fyw? A oes gennych frawd arall?' Wrth inni ei ateb, a allem ni ddirnad y dywedai ef, 'Dewch 'ch brawd yma'?"
Dywedodd eu tad Israel wrthynt, "Os oes rhaid, gwnewch hyn: cymerwch rai o ffrwythau gorau'r wlad yn eich paciau, a dygwch yn anrheg i'r dyn ychydig o falm ac ychydig o fl, glud pr, myrr, cnau ac almonau.
a rhodded Duw Hollalluog drugaredd i chwi gerbron y dyn, er mwyn iddo ollwng yn rhydd eich brawd arall a Benjamin. Os gwneir fi'n ddi-blant, derbyniaf hynny."
Pan welodd Joseff fod Benjamin gyda hwy, dywedodd wrth swyddog ei du375?, "Dos 'r dynion i'r tu375?, a lladd anifail a gwna wledd, oherwydd bydd y dynion yn bwyta gyda mi ganol dydd."
Ond yr oedd ar y dynion ofn pan gymerwyd hwy i du375? Joseff, ac meddent, "Y maent wedi dod ni i mewn yma oherwydd yr arian a roddwyd yn l yn ein sachau y tro cyntaf. Byddant yn rhuthro ac yn ymosod arnom, a'n gwneud yn gaethion, a chipio ein hasynnod."
Atebodd yntau, "Byddwch dawel, peidiwch ag ofni; eich Duw a Duw eich tad a guddiodd drysor i chwi yn eich sachau; derbyniais i eich arian." Yna daeth Simeon allan atynt.
Cododd yntau ei olwg a gweld ei frawd Benjamin, mab ei fam ef ei hun, a gofynnodd, "Ai dyma eich brawd ieuengaf, y buoch yn sn amdano?" A dywedodd wrtho, "Bydded Duw yn rasol wrthyt, fy mab."
Gosodwyd bwyd iddo ef ar wahn, ac iddynt hwy ar wahn, ac i'r Eifftiaid oedd yn bwyta gydag ef ar wahn; oherwydd ni allai'r Eifftiaid gydfwyta gyda'r Hebreaid, am fod hynny'n ffieidd-dra ganddynt.
Cododd Joseff seigiau iddynt o'i fwrdd ei hun, ac yr oedd cyfran Benjamin bum gwaith yn fwy na chyfran y lleill. Felly yfasant a bod yn llawen gydag ef.