Doedd Joseff ddim yn gallu rheoli ei deimladau o flaen pawb oedd o'i gwmpas. “Pawb allan!” meddai wrth ei weision. Felly wnaeth neb aros gydag e pan ddwedodd wrth ei frodyr pwy oedd e.
A dyma Joseff yn gofyn, “Plîs dewch yn nes.” A dyma nhw'n mynd yn nes ato. “Joseff, eich brawd chi, ydw i,” meddai wrthyn nhw, “yr un wnaethoch chi ei werthu i'r Aifft.
Brysiwch adre i ddweud wrth dad fod Joseff ei fab yn dweud, ‘Mae Duw wedi fy ngwneud i'n bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr yma ata i ar unwaith.
Bydda i'n gwneud yn siŵr fod gynnoch chi ddigon o fwyd, ac na fyddwch chi'n brin o unrhyw beth. Achos mae'r newyn yn mynd i bara am bum mlynedd arall.’
Anfonodd y rhain i'w dad hefyd: deg asyn wedi eu llwytho gyda chynnyrch gorau yr Aifft, deg o asennod wedi eu llwytho gyda ŷd, bara, a bwyd ar gyfer taith ei dad yn ôl.
Ond pan ddwedon nhw bopeth oedd Joseff wedi ei ddweud wrthyn nhw, a pan welodd y wagenni roedd Joseff wedi eu hanfon, dyma Jacob yn dechrau dod ato'i hun.