a dweud wrthyf, 'Fe'th wnaf di'n ffrwythlon a lluosog, yn gynulliad o bobloedd, a rhof y wlad hon yn etifeddiaeth dragwyddol i'th ddisgynyddion ar dy l.'
Ac yn awr, fi piau dy ddau fab, a anwyd i ti yng ngwlad yr Aifft cyn i mi ddod atat i'r Aifft. Fi piau Effraim a Manasse; byddant fel Reuben a Simeon i mi.
Oherwydd fel yr oeddwn yn dod o Padan, bu Rachel farw ar y daith yng ngwlad Canaan pan oedd eto dipyn o ffordd i Effrath, a chleddais hi yno ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem."
Yna cymerodd Joseff y ddau ohonynt, Effraim yn ei law dde i fod ar law chwith Israel, a Manasse yn ei law chwith i fod ar law dde Israel, a daeth hwy ato.
yr angel a'm gwaredodd rhag pob drwg, bydded iddo ef fendithio'r llanciau hyn. Bydded arnynt fy enw i ac enw fy nhadau, Abraham ac Isaac, a boed iddynt gynyddu yn niferus ar y ddaear."
Gwelodd Joseff fod ei dad wedi gosod ei law dde ar ben Effraim, ac nid oedd yn hoffi hynny. Gafaelodd yn llaw ei dad i'w symud oddi ar ben Effraim a'i gosod ar ben Manasse,
Ond gwrthododd ei dad gan ddweud, "Mi wn i, fy mab, mi wn i. Bydd yntau hefyd yn bobl, a bydd yn fawr; ond bydd ei frawd ieuengaf yn fwy nag ef, a bydd ei ddisgynyddion yn lliaws o genhedloedd."
Felly bendithiodd hwy y dydd hwnnw a dweud: "Ynoch chwi bydd Israel yn bendithio ac yn dweud, 'Gwnaed Duw di fel Effraim a Manasse.'" Felly gosododd Effraim o flaen Manasse.