×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

Genesis 50

1
Yna fe'i taflodd Joseff ei hun ar gorff ei dad, ac wylo a'i gusanu.
2
Gorchmynnodd Joseff i'w weision, y meddygon, eneinio ei dad. Bu'r meddygon yn eneinio Israel
3
dros ddeugain diwrnod, sef yr amser angenrheidiol i eneinio, a galarodd yr Eifftiaid amdano am saith deg diwrnod.
4
Pan ddaeth y dyddiau i alaru amdano i ben, dywedodd Joseff wrth deulu Pharo, "Os cefais unrhyw ffafr yn eich golwg, siaradwch drosof wrth Pharo, a dywedwch,
5
'Gwnaeth fy nhad i mi gymryd llw. Dywedodd, "Yr wyf yn marw, ac yr wyf i'm claddu yn y bedd a dorrais i mi fy hun yng ngwlad Canaan." Yn awr gad i mi fynd i fyny i gladdu fy nhad; yna fe ddof yn l.'"
6
Atebodd Pharo, "Dos i fyny i gladdu dy dad, fel y gwnaeth iti dyngu."
7
Felly aeth Joseff i fyny i gladdu ei dad, a chydag ef aeth holl weision Pharo, henuriaid ei du375?, a holl henuriaid gwlad yr Aifft,
8
holl du375? Joseff, a'i frodyr, a thu375? ei dad. Dim ond y rhai bychain, a'r defaid a'r gwartheg, a adawsant yng ngwlad Gosen.
9
Aeth i fyny gydag ef gerbydau a marchogion, llu mawr ohonynt.
10
Wedi iddynt gyrraedd llawr dyrnu Atad, sydd y tu draw i'r Iorddonen, gwnaethant yno alarnad uchel a chwerw iawn. Galarnadodd Joseff am ei dad am saith diwrnod.
11
Pan welodd y Canaaneaid, preswylwyr y wlad, y galar ar lawr dyrnu Atad, dywedasant, "Dyma alar mawr gan yr Eifftiaid." Felly enwyd y lle y tu draw i'r Iorddonen yn Abel-misraim.
12
A gwnaeth ei feibion i Jacob fel yr oedd wedi gorchymyn iddynt;
13
oherwydd daeth ei feibion ag ef i wlad Canaan a'i gladdu ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yn yr ogof a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd.
14
Ac wedi iddo gladdu ei dad, dychwelodd Joseff i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb oedd wedi mynd i fyny gydag ef i gladdu ei dad.
15
Wedi marw eu tad, daeth ofn ar frodyr Joseff, a dywedasant, "Efallai y bydd Joseff yn ein casu ni, ac yn talu'n l yr holl ddrwg a wnaethom iddo."
16
A daethant at Joseff, a dweud, "Rhoddodd dy dad orchymyn fel hyn cyn marw,
17
'Dywedwch wrth Joseff, "Maddau yn awr ddrygioni a phechod dy frodyr, oherwydd gwnaethant ddrwg i ti."' Yn awr, maddau ddrygioni gweision Duw dy dad." Wylodd Joseff wrth iddynt siarad ag ef.
18
Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, "Yr ydym yn weision i ti."
19
Ond dywedodd Joseff wrthynt, "Peidiwch ag ofni. A wyf fi yn lle Duw?
20
Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw'n fyw llawer o bobl.
21
Felly peidiwch ag ofni; fe'ch cynhaliaf chwi a'ch rhai bach." A chysurodd hwy, a siarad yn dyner wrthynt.
22
Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Bu Joseff fyw am gant a deg o flynyddoedd,
23
a gwelodd blant Effraim hyd y drydedd genhedlaeth. Ar liniau Joseff hefyd y maethwyd plant Machir fab Manasse.
24
Yna dywedodd Joseff wrth ei frodyr, "Yr wyf yn marw; ond y mae Duw yn sicr o ymweld chwi a'ch dwyn i fyny o'r wlad hon i'r wlad a addawodd trwy lw i Abraham, Isaac a Jacob."
25
A gwnaeth Joseff i feibion Israel dyngu llw. Dywedodd, "Y mae Duw yn sicr o ymweld chwi; ewch chwithau 'm hesgyrn i fyny oddi yma."
26
Bu Joseff farw yn gant a deg oed, ac wedi iddynt ei eneinio, rhoesant ef mewn arch yn yr Aifft.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau