Anfonodd yr ARGLWYDD y proffwyd Nathan at Ddafydd; a phan ddaeth, dywedodd wrtho: "Yr oedd dau ddyn mewn rhyw dref, un yn gyfoethog a'r llall yn dlawd.
ond nid oedd dim gan yr un tlawd, ar wahn i un oenig fechan yr oedd wedi ei phrynu a'i magu, a thyfodd i fyny ar ei aelwyd gyda'i blant, yn bwyta o'r un tamaid ag ef, yn yfed o'r un cwpan, ac yn cysgu yn ei gl; yr oedd fel merch iddo.
Pan ddaeth ymwelydd at y dyn cyfoethog, gofalodd hwnnw beidio chymryd yr un o'i ddefaid na'i ychen ei hun i wneud pryd i'r teithiwr oedd wedi cyrraedd, yn hytrach fe gymerodd oenig y dyn tlawd a'i pharatoi ar gyfer y sawl a ddaeth ato."
Dywedodd Nathan wrth Ddafydd, "Ti yw'r dyn. Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel, 'Fe'th eneiniais di yn frenin ar Israel, ac fe'th waredais o law Saul;
rhois iti du375? dy feistr a gwragedd dy feistr yn dy fynwes, a rhois iti hefyd du375? Israel a Jwda. A phe buasai hynny'n rhy ychydig, buaswn wedi ychwanegu cymaint eto.
Pam yr wyt wedi dirmygu gair yr ARGLWYDD drwy wneud yr hyn sydd ddrwg yn ei olwg? Yr wyt wedi lladd Ureia yr Hethiad 'r cleddyf, a chymryd ei wraig yn wraig i ti, wedi iti ei lofruddio ef chleddyf yr Ammoniaid.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Wele fi'n codi yn dy erbyn ddrwg o blith dy deulu dy hun; o flaen dy lygad cymeraf dy wragedd a'u rhoi i'th gymydog, a bydd ef yn gorwedd gyda'th wragedd di yn llygad yr haul hwn.
Yna dywedodd Dafydd wrth Nathan, "Yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD." Ac meddai Nathan wrth Ddafydd, "Y mae'r ARGLWYDD yntau wedi troi dy bechod heibio; ni fyddi farw.
Ar y seithfed dydd bu farw'r plentyn, ond yr oedd gweision Dafydd yn ofni dweud wrtho ei fod wedi marw. "Gwelwch," meddent, "tra oedd y plentyn yn fyw, nid oedd yn gwrando arnom, er inni siarad ag ef; sut y dywedwn wrtho fod y plentyn wedi marw? Gallai wneud rhyw niwed iddo'i hun."
Pan welodd Dafydd fod ei weision yn sibrwd ymhlith ei gilydd, deallodd fod y plentyn wedi marw; felly dywedodd Dafydd wrth ei weision, "A yw'r plentyn wedi marw?" "Ydyw," meddent hwythau.
Yna cododd Dafydd oddi ar lawr, ac ymolchi a'i eneinio'i hun a newid ei ddillad; ac aeth i du375? Dduw i addoli. Wedyn aeth i'w du375? a gofyn am fwyd; ac wedi iddynt ei osod iddo, fe fwytaodd.
Gofynnodd ei weision iddo, "Beth yw hyn yr wyt yn ei wneud? Tra oedd y plentyn yn fyw, yr oeddit yn ymprydio ac yn wylo; ond wedi i'r plentyn farw, yr wyt wedi codi a bwyta."
Eglurodd yntau, "Tra oedd y plentyn yn dal yn fyw, yr oeddwn yn ymprydio ac yn wylo am fy mod yn meddwl, 'Pwy a u373?yr a fydd yr ARGLWYDD yn trugarhau wrthyf, ac y bydd y plentyn fyw?'
Cymerodd goron eu brenin oddi ar ei ben yr oedd yn pwyso talent o aur, a gem gwerthfawr ynddi a rhoed hi ar ben Dafydd. Dygodd o'r ddinas lawer o ysbail,
ac aeth 'r bobl oedd ynddi a'u gosod i lafurio llifiau a cheibiau heyrn a bwyeill heyrn, a hefyd i weithio priddfeini. Gwnaeth Dafydd yr un modd holl drefi'r Ammoniaid, ac yna dychwelodd ef a'r holl fyddin i Jerwsalem.