Gofynnodd hwn iddo, "Pam yr wyt ti'n nychu fel hyn o ddydd i ddydd, O fab y brenin? Oni ddywedi di wrthyf?" Atebodd Amnon, "Yr wyf mewn cariad Tamar, chwaer fy mrawd Absalom."
Yna dywedodd Jonadab wrtho, "Gorwedd ar dy wely a chymer arnat dy fod yn glaf; a phan ddaw dy dad i'th weld, dywed wrtho, 'Gad i'm chwaer Tamar ddod i roi bwyd imi, a pharatoi'r bwyd yn fy ngolwg, er mwyn i mi gael gweld a bwyta o'i llaw hi.'"
Felly aeth Amnon i'w wely a chymryd arno ei fod yn glaf; a phan ddaeth y brenin i'w weld, dywedodd Amnon wrtho, "Gad i'm chwaer Tamar ddod a gwneud cwpl o deisennau bach o flaen fy llygaid, fel y caf fwyta o'i llaw."
Wedi i bawb fynd allan, dywedodd Amnon wrth Tamar, "Tyrd 'r bwyd i'r siambr imi gael bwyta o'th law." Felly cymerodd Tamar y teisennau a baratdd, a mynd hwy at Amnon ei brawd i'r siambr;
Amdanaf fi, i ble y gallwn fynd 'm gwarth? A byddit tithau fel un o'r ffyliaid yn Israel. Dos i ofyn i'r brenin, oherwydd ni fyddai'n gwrthod fy rhoi iti."
Gofynnodd ei brawd Absalom iddi, "Ai dy frawd Amnon a fu gyda thi? Taw, yn awr, fy chwaer; dy frawd yw ef, paid phoeni'n ormodol am hyn." Ond arhosodd Tamar yn alarus yng nghartref ei brawd Absalom.
Ond meddai'r brenin wrth Absalom, "Na, na, fy mab, ni ddown i gyd, rhag bod yn ormod o faich arnat." Ac er iddo grefu, gwrthododd fynd; ond rhoes ei fendith iddo.
Yna huliodd Absalom wledd frenhinol, a gorchymyn i'w lanciau, "Edrychwch, pan fydd Amnon yn llawen gan win, a minnau'n dweud, 'Tarwch Amnon', yna lladdwch ef. Peidiwch ag ofni; onid wyf fi wedi gorchymyn i chwi? Byddwch yn wrol a dewr."
Yna meddai Jonadab mab Simea brawd Dafydd, "Peidied f'arglwydd meddwl eu bod wedi lladd y bechgyn, meibion y brenin, i gyd; Amnon yn unig sydd wedi marw. Y mae hyn wedi bod ym mwriad Absalom o'r dydd y treisiodd ei chwaer Tamar.
ac y mae Absalom wedi ffoi." Fel yr oedd y llanc oedd ar wyliadwriaeth yn edrych allan, gwelodd dwr o bobl yn dod i lawr o gyfeiriad Horonaim. Aeth y gwyliwr a dweud wrth y brenin ei fod wedi gweld dynion yn dod o gyfeiriad Horonaim ar hyd ochr y mynydd.
Ac fel yr oedd yn gorffen siarad, dyma feibion y brenin yn cyrraedd ac yn torri allan i wylo, nes bod y brenin hefyd a'i holl weision yn wylo'n chwerw.