|
| 1 |
|
| Llefarodd Dafydd eiriau'r gerdd hon wrth yr ARGLWYDD y diwrnod y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion ac o law Saul, |
|
| 2 |
|
| a dywedodd: "Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd; |
|
| 3 |
|
| fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer, fy noddfa, a'm hachubwr sy'n fy achub rhag trais. |
|
| 4 |
|
| "Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl, ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion. |
|
| 5 |
|
| Pan oedd tonnau angau yn f'amgylchynu a llifeiriant distryw yn fy nal, |
|
| 6 |
|
| pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchu a maglau angau o'm blaen, |
|
| 7 |
|
| gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo; clywodd fy llef o'i deml, a daeth fy ngwaedd i'w glustiau. |
|
| 8 |
|
| "Crynodd y ddaear a gwegian, ysgydwodd sylfeini'r nefoedd, a siglo oherwydd ei ddicter ef. |
|
| 9 |
|
| Cododd mwg o'i ffroenau, yr oedd tn yn ysu o'i enau, a marwor yn cynnau o'i gwmpas. |
|
| 10 |
|
| Fe agorodd y ffurfafen a disgyn, ac yr oedd tywyllwch dan ei draed. |
|
| 11 |
|
| Marchogodd ar gerwb a hedfan, gwibiodd ar adenydd y gwynt. |
|
| 12 |
|
| Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn babell, a chymylau duon yn orchudd. |
|
| 13 |
|
| o'r disgleirdeb o'i flaen tasgodd cerrig tn. |
|
| 14 |
|
| Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd, a llefarodd llais y Goruchaf. |
|
| 15 |
|
| Bwriodd allan ei saethau yma ac acw, saethodd fellt a gwneud iddynt atsain. |
|
| 16 |
|
| Daeth gwaelodion y mr i'r golwg, a dinoethwyd sylfeini'r byd, oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chwythiad anadl dy ffroenau. |
|
| 17 |
|
| "Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd, tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion. |
|
| 18 |
|
| Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol, rhag y rhai sy'n fy nghasu pan oeddent yn gryfach na mi. |
|
| 19 |
|
| Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng, ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi. |
|
| 20 |
|
| Dygodd fi allan i le agored, a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi. |
|
| 21 |
|
| "Gwnaeth yr ARGLWYDD mi yn l fy nghyfiawnder, a thalodd i mi yn l glendid fy nwylo. |
|
| 22 |
|
| Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni; |
|
| 23 |
|
| yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen, ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu. |
|
| 24 |
|
| Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg, a chedwais fy hun rhag troseddu. |
|
| 25 |
|
| Talodd yr ARGLWYDD imi yn l fy nghyfiawnder, ac yn l glendid fy nwylo yn ei olwg. |
|
| 26 |
|
| Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon, yn ddifeius i'r sawl sydd ddifeius, |
|
| 27 |
|
| ac yn bur i'r rhai pur; ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam. |
|
| 28 |
|
| Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig, ac yn darostwng y beilchion. |
|
| 29 |
|
| Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD; fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair. |
|
| 30 |
|
| Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu; trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur. |
|
| 31 |
|
| Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo. |
|
| 32 |
|
| "Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD? A phwy sydd graig ond ein Duw ni? |
|
| 33 |
|
| Duw yw fy nghaer gadarn, sy'n gwneud fy ffordd yn ddifeius. |
|
| 34 |
|
| Gwna fy nhraed fel rhai ewig, a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd. |
|
| 35 |
|
| Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela, i'm breichiau dynnu bwa pres. |
|
| 36 |
|
| Rhoist imi dy darian i'm gwaredu, a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal. |
|
| 37 |
|
| Rhoist imi le llydan i'm camau, ac ni lithrodd fy nhraed. |
|
| 38 |
|
| Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu distrywio; ni ddychwelaf nes eu difetha. |
|
| 39 |
|
| Yr wyf yn eu difa a'u trywanu fel na allant godi, ac y maent yn syrthio dan fy nhraed. |
|
| 40 |
|
| Yr wyt wedi fy ngwregysu nerth i'r frwydr, a darostwng fy ngelynion danaf. |
|
| 41 |
|
| Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf, a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasu. |
|
| 42 |
|
| Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd, yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb. |
|
| 43 |
|
| Fe'u maluriaf cyn faned llwch y ddaear, a'u malu a'u sathru fel llaid ar y strydoedd. |
|
| 44 |
|
| Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl, a'm cadw yn ben ar y cenhedloedd; pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi. |
|
| 45 |
|
| Estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen, pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi. |
|
| 46 |
|
| Y mae estroniaid yn gwangalonni, ac yn dyfod dan grynu o'u lloches. |
|
| 47 |
|
| "Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig, dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu, |
|
| 48 |
|
| y Duw sy'n rhoi imi ddialedd, ac yn darostwng pobloedd danaf, |
|
| 49 |
|
| sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion, yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr, ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr. |
|
| 50 |
|
| Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd, a chanaf fawl i'th enw. |
|
| 51 |
|
| Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog, i Ddafydd ac i'w had am byth." |
|
|
|
|