A dywedodd ei weision wrtho, "Ceisier i'n harglwydd frenin forwyn ifanc i ofalu am y brenin, i'th ymgeleddu a gorwedd yn dy fynwes, fel y cynheso'r arglwydd frenin."
Ymddyrchafodd Adoneia fab Haggith gan ddweud, "Yr wyf fi am fod yn frenin." A darparodd iddo'i hun gerbyd a marchogion, a hanner cant o wu375?r i redeg o'i flaen.
Yr oedd yntau hefyd yn hynod deg ei bryd; a ganed ef ar l Absalom. Bu'n trafod gyda Joab fab Serfia, ac Abiathar yr offeiriad; a rhoesant eu cefnogaeth i Adoneia.
Yna lladdodd Adoneia ddefaid a gwartheg a phasgedigion wrth faen Soheleth sydd gerllaw En-rogel; a gwahoddodd i'w wledd ei holl frodyr, meibion y brenin, a holl wu375?r Jwda a oedd yn weision i'r brenin.
Dos i mewn ar unwaith at y Brenin Dafydd a dywed wrtho, 'Oni thyngaist, f'arglwydd frenin, wrth dy lawforwyn a dweud, "Solomon dy fab a deyrnasa ar fy l; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd"? Pam gan hynny y mae Adoneia yn frenin?'
Atebodd hithau, "F'arglwydd, ti dy hun a dyngodd trwy'r ARGLWYDD dy Dduw wrth dy lawforwyn: 'Solomon dy fab a deyrnasa ar fy l; ef sydd i eistedd ar fy ngorsedd.'
Y mae wedi lladd llawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd holl feibion y brenin, Abiathar yr offeiriad a Joab, tywysog y llu; ond ni wahoddodd dy was Solomon.
Oblegid aeth i lawr heddiw, a lladdodd lawer o fustych, pasgedigion a defaid, a gwahodd i'w wledd holl dylwyth y brenin, tywysog y llu ac Abiathar yr offeiriad. Y maent yn bwyta ac yn yfed yn ei u373?ydd, ac yn ei gyfarch, 'Byw fyddo'r brenin Adoneia!'
yn ddiau fel y tyngais i ti trwy'r ARGLWYDD, Duw Israel, mai Solomon dy fab a deyrnasai ar fy l, ac eistedd ar fy ngorsedd yn fy lle, felly yn ddiau y gwnaf y dydd hwn."
Daethant i u373?ydd y brenin, a dywedodd y brenin wrthynt, "Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi, a pheri i'm mab Solomon farchogaeth ar fy mules, a dewch ag ef i lawr i Gihon.
Aeth Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a'r Cerethiaid a'r Pelethiaid, i lawr, gan beri i Solomon farchogaeth ar fules y Brenin Dafydd, a dod ag ef i Gihon.
Cymerodd Sadoc yr offeiriad y corn olew o'r babell, ac eneiniodd Solomon; yna seiniwyd yr utgorn, a dywedodd yr holl bobl, "Byw fyddo'r brenin Solomon!"
Tra oeddent yn gorffen bwyta, clywodd Adoneia hyn, a'r holl wahoddedigion oedd gydag ef. A phan glywodd Joab sain yr utgorn dywedodd, "Pam y mae su373?n cynnwrf yn y ddinas?"
ac wedi anfon gydag ef Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd, Benaia fab Jehoiada, y Cerethiaid a'r Pelethiaid, a pheri iddo farchogaeth ar fules y brenin.
Ac eneiniodd Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yn frenin yn Gihon, a daethant i fyny oddi yno dan lawenhau, a chynhyrfodd y ddinas. Dyna'r twrf a glywsoch.
a daeth gweision y brenin ymlaen i gyfarch ein harglwydd, y Brenin Dafydd, a dweud, 'Gwneled dy Dduw enw Solomon yn well na'th enw di, a dyrchafed ei orsedd ef yn uwch na'th orsedd di!' Ac ymgrymodd y brenin ar ei wely.
Mynegwyd i Solomon, "Edrych, y mae Adoneia'n ofni'r Brenin Solomon; ymaflodd yng nghyrn yr allor a dweud, 'Tynged y Brenin Solomon wrthyf yn awr na fydd iddo ladd ei was 'r cledd.'"
Ac anfonodd y Brenin Solomon i'w gyrchu ef i lawr oddi wrth yr allor. Daeth yntau ac ymgrymu i'r Brenin Solomon; a dywedodd Solomon wrtho, "Dos i'th du375?."