Aeth cryn amser heibio, ac yn y drydedd flwyddyn daeth gair yr ARGLWYDD at Elias gan ddweud, "Dos, dangos dy hun i Ahab er mwyn imi roi glaw ar wyneb y tir."
Yr oedd Obadeia yn ofni'r ARGLWYDD yn fawr, a phan ddistrywiodd Jesebel broffwydi'r ARGLWYDD, fe gymerodd Obadeia gant o broffwydi a'u cuddio mewn ogof fesul hanner cant, a'u cynnal bwyd a diod.
A dywedodd Ahab wrth Obadeia, "Cerdda drwy'r wlad i bob ffynnon a nant, ac efallai y down o hyd i laswellt, a chadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, rhag inni golli pob anifail."
Cyn wired bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes na chenedl na theyrnas nad yw f'arglwydd wedi anfon yno i'th geisio; a phan ddywedent, 'Nid yw yma', byddai'n mynnu i'r deyrnas neu'r genedl dyngu llw nad oeddent wedi dy weld.
Cyn gynted ag yr af oddi wrthyt, bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gipio, ni wn i ble. Ac os af i ddweud wrth Ahab, ac yntau'n methu dy gael, bydd yn fy lladd ac y mae dy was wedi ofni'r ARGLWYDD er pan oedd yn fachgen.
Oni ddywedodd neb wrth f'arglwydd yr hyn a wneuthum pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi'r ARGLWYDD, fy mod wedi cuddio cant o broffwydi'r ARGLWYDD mewn ogof, fesul hanner cant, a'u cynnal bwyd a diod?
Anfon yn awr a chasgla ataf holl Israel i Fynydd Carmel, a hefyd y pedwar cant a hanner o broffwydi Baal a'r pedwar cant o broffwydi Asera y mae Jesebel yn eu cynnal."
Pan ddaeth Elias at yr holl bobl, gofynnodd, "Pa hyd yr ydych yn cloffi rhwng dau feddwl? Os yr ARGLWYDD sydd Dduw, dilynwch ef; ac os Baal, dilynwch hwnnw." Ond nid atebodd y bobl air iddo.
Rhodder inni ddau fustach, hwy i ddewis un a'i ddatgymalu a'i osod ar y coed, ond heb roi tn dano; a gwnaf finnau'r llall yn barod a'i osod ar y coed, heb roi tn dano.
Atebodd yr holl bobl, "Cynllun da!" Dywedodd Elias wrth broffwydi Baal, "Dewiswch chwi un bustach a'i baratoi'n gyntaf, gan eich bod yn niferus, a galwch ar eich duw, ond peidio rhoi tn."
Ac wedi cymryd y bustach a roddwyd iddynt a'i baratoi, galwasant ar Baal o'r bore hyd hanner dydd, a dweud, "Baal, ateb ni!" Ond nid oedd llef nac ateb, er iddynt lamu o gylch yr allor.
Erbyn hanner dydd yr oedd Elias yn eu gwatwar ac yn dweud, "Galwch yn uwch, oherwydd duw ydyw; hwyrach ei fod yn synfyfyrio, neu wedi troi o'r neilltu, neu wedi mynd ar daith; neu efallai ei fod yn cysgu a bod yn rhaid ei ddeffro."
Ac wedi i hanner dydd fynd heibio, yr oeddent yn dal i broffwydo'n orffwyll hyd adeg offrymu'r hwyroffrwm; ond nid oedd llef nac ateb na sylw i'w gael.
ac yna meddai, "Llanwch bedwar llestr du373?r, a'i dywallt ar yr aberth a'r coed." Yna dywedodd, "Gwnewch eilwaith"; a gwnaethant yr eildro. Yna dywedodd, "Gwnewch y drydedd waith"; a gwnaethant y trydydd tro,
Pan ddaeth awr offrymu'r hwyroffrwm, nesaodd y proffwyd Elias a dweud, "O ARGLWYDD, Duw Abraham, Isaac ac Israel, pr wybod heddiw mai ti sydd Dduw yn Israel, a minnau'n was iti, ac mai trwy dy air di y gwneuthum hyn i gyd.
Yna dywedodd Elias wrthynt, "Daliwch broffwydi Baal; peidiwch gadael i'r un ohonynt ddianc." Ac wedi iddynt eu dal, aeth Elias hwy i lawr i nant Cison a'u lladd yno.
Yna dywedodd wrth ei lanc, "Dos di i fyny ac edrych tua'r mr." Ac wedi iddo fynd ac edrych dywedodd, "Nid oes dim i'w weld." A saith waith y dywedodd wrtho, "Dos eto."
A'r seithfed tro dywedodd y llanc, "Mae yna gwmwl bychan fel cledr llaw yn codi o'r mr." Yna dywedodd Elias wrtho, "Dos, dywed wrth Ahab, 'Gwna dy gerbyd yn barod a dos, rhag i'r glaw dy rwystro.'"