A dywedodd Ahab wrth Naboth, "Rho dy winllan i mi i fod yn ardd lysiau, gan ei bod mor agos i'm tu375?; a rhof iti'n gyfnewid winllan well na hi. Neu, os yw'n well gennyt, rhof iti ei gwerth mewn arian."
Dychwelodd Ahab i'w du375? yn ddigalon a dig am i Naboth y Jesreeliad ateb, "Ni roddaf iti etifeddiaeth fy hynafiaid." Bwriodd ei hun ar ei wely, a throi ei wyneb draw a gwrthod bwyta.
Atebodd yntau, "Dywedais wrth Naboth y Jesreeliad, 'Rho dy winllan i mi am arian; neu, os dewisi, rhof iti winllan yn ei lle.' Ac atebodd, 'Ni roddaf fy ngwinllan iti.'"
A gwnaed Naboth gan yr henuriaid a'r uchelwyr oedd yn byw yn yr un ddinas ag ef yn union fel y gorchmynnodd Jesebel yn y llythyrau a ysgrifennodd atynt.
a daeth y ddau ddihiryn ac eistedd o'i flaen, a thystio yn erbyn Naboth gerbron y bobl a dweud, "Y mae Naboth wedi melltithio Duw a'r brenin." Aed ag ef y tu allan i'r ddinas a'i labyddio cherrig nes iddo farw.
Cyn gynted ag y clywodd Jesebel fod Naboth wedi ei labyddio'n gelain, dywedodd wrth Ahab, "Cod, meddianna'r winllan y gwrthododd Naboth y Jesreeliad ei hildio iti am arian. Nid yw Naboth yn fyw; y mae wedi marw."
Dywed wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Wedi llofruddio, a fynni di hefyd feddiannu?"' Dywed hefyd wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Lle y llyfodd y cu373?n waed Naboth, fe lyfant dy waed dithau."'"
"A sylwaist ti fod Ahab wedi ymostwng ger fy mron? Gan ei fod wedi ymostwng ger fy mron, nid wyf am ddod 'r drwg yn ei ddyddiau ef; yn nyddiau ei fab y dygaf y drwg ar ei deulu."