Gwnaeth Solomon gynghrair Pharo brenin yr Aifft trwy briodi ei ferch. Daeth hi i Ddinas Dafydd i fyw nes iddo ddarfod adeiladu ei du375? ei hun a thu375?'r ARGLWYDD, a'r mur o amgylch Jerwsalem.
Dywedodd Solomon, "Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, dy was, am iddo rodio gyda thi mewn gwirionedd a chyfiawnder a chywirdeb calon. Ie, parheaist yn ffyddlon iawn iddo, a rhoi iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc heddiw.
a dywedodd Duw wrtho, "Oherwydd iti ofyn hyn, ac nid gofyn i ti dy hun flynyddoedd lawer, na chyfoeth, nac einioes dy elynion, ond gofyn deall wrth wrando achos,
Deffrdd Solomon, a sylweddoli mai breuddwyd oedd. Pan ddaeth yn l i Jerwsalem, safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD ac offrymodd boeth-offrymau a heddoffrymau, a gwnaeth wledd i'w holl weision.
cododd hithau yn ystod y nos a chymryd fy mab o'm hymyl tra oeddwn i, dy lawforwyn, yn cysgu, a'i gymryd i'w chl a gosod ei phlentyn marw yn fy nghl i.
Meddai'r wraig arall, "Na, fy mab i yw'r un byw; dy fab di yw'r un marw." Yna, dyma'r gyntaf yn dweud, "Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw." Taeru felly y buont gerbron y brenin.
Yna dywedodd y brenin, "Y mae'r naill yn dweud, 'Hwn yw fy mab i, y byw; yr un marw yw dy fab di.' Ac y mae'r llall yn dweud, 'Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw.'"
Ond meddai'r wraig oedd piau'r plentyn byw wrth y brenin (oherwydd enynnodd ei thosturi tuag at ei baban), "O f'arglwydd, rhowch iddi hi y plentyn byw, a pheidiwch 'i ladd ar un cyfrif."
Ond dywedodd y llall, "Na foed yn eiddo i mi na thithau; rhannwch ef." Atebodd y brenin, "Peidiwch 'i ladd; rhowch y plentyn byw i'r gyntaf; honno yw ei fam."