Pan glywodd Hiram brenin Tyrus mai Solomon oedd wedi ei eneinio yn frenin yn lle ei dad, anfonodd ei weision ato, oherwydd bu Dafydd yn hoff gan Hiram erioed.
"Gwyddost am fy nhad Dafydd, na allodd adeiladu tu375? i enw'r ARGLWYDD ei Dduw o achos y rhyfeloedd o'i amgylch, nes i'r ARGLWYDD roi ei elynion dan wadnau ei draed.
Y mae yn fy mwriad adeiladu tu375? i enw'r ARGLWYDD fy Nuw fel yr addawodd yr ARGLWYDD wrth fy nhad Dafydd, gan ddweud, 'Dy fab, y byddaf yn ei roi ar dy orsedd yn dy le, a adeilada'r tu375? i'm henw.'
Felly rho orchymyn i dorri i mi gedrwydd o Lebanon; fe gaiff fy ngweision i fod gyda'th rai di, ac mi dalaf iti gyflog dy weision yn l yr hyn a ofynni; gwyddost nad oes gennym ni neb mor hyddysg 'r Sidoniaid mewn cymynu coed."
Llawenychodd Hiram yn fawr pan glywodd eiriau Solomon, a dywedodd, "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD heddiw am iddo roi i Ddafydd fab doeth dros y bobl niferus hyn."
Caiff fy ngweision eu dwyn i lawr o Lebanon at y mr, a byddaf fi'n eu gyrru'n rafftiau dros y mr i'r man a benni imi; byddaf yn eu datod yno, i ti eu cymryd. Cei dithau gyflawni fy nymuniad innau a rhoi ymborth ar gyfer fy mhalas."
a Solomon yn rhoi i Hiram ugain mil o gorusau o wenith ac ugain corus o olew coeth yn gynhaliaeth i'w balas. Dyna beth yr oedd Solomon yn ei roi i Hiram yn flynyddol.
Byddai'n eu hanfon i Lebanon fesul deng mil o wu375?r am fis ar y tro; byddent am fis yn Lebanon, a deufis gartref. Adoniram oedd pennaeth y dreth llafur gorfod.