Dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD yn ystod ei bedwaredd flwyddyn fel brenin, yn yr ail fis, sef Mis Sif. Roedd hi'n bedwar cant wyth deg o flynyddoedd ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft.
Roedd llawr isaf yr estyniad yn ddau fetr ar draws, y llawr canol yn ddau fetr a hanner a'r trydydd yn dri metr. Roedd siliau ar waliau allanol y deml, fel bod dim rhaid gosod y trawstiau yn y waliau eu hunain.
Roedd y deml yn cael ei hadeiladu gyda cherrig oedd wedi cael eu paratoi yn barod yn y chwarel. Felly doedd dim sŵn morthwyl na chaib nac unrhyw offer haearn arall i'w glywed yn y deml wrth iddyn nhw adeiladu.
Roedd y drws i'r ystafelloedd ar y llawr isaf ar ochr ddeheuol y deml. Wedyn roedd grisiau tro yn mynd i fyny i'r llawr canol, ac yna ymlaen i'r trydydd llawr.
[12-13] “Os byddi di'n byw fel dw i'n dweud, yn cadw fy neddfau, yn gwrando ar fy ngorchmynion ac yn ufudd iddyn nhw, yna bydda i yn cadw'r addewid wnes i dy dad Dafydd. Bydda i yn byw gyda phobl Israel yn y deml yma rwyt ti wedi ei chodi a fydda i byth yn troi cefn arnyn nhw.”
Roedd y naw metr pellaf, yng nghefn yr adeilad, yn gell ar wahân, tu ôl i bared o goed cedrwydd wedi ei godi o'r llawr i'r to. Hwn oedd y cysegr mwyaf sanctaidd.
Roedd y pren tu mewn i'r deml wedi ei gerfio drosto gyda ffrwyth cicaion a blodau agored. Roedd yn baneli cedrwydd i gyd; doedd dim un garreg yn y golwg.
Roedd tu mewn y deml i gyd wedi ei orchuddio gydag aur pur. Roedd cadwyni aur o flaen y gell gysegredig fewnol, ac roedd y gell ei hun wedi ei gorchuddio ag aur hefyd.
Dyma Solomon yn rhoi'r ddau geriwb ochr yn ochr yn y cysegr mewnol, gyda'i hadenydd ar led. Roedd adain y cyntaf yn cyffwrdd y wal un ochr i'r gell, ac adain y llall yn cyffwrdd y wal ar yr ochr arall. Ac roedd ail adain y ddau geriwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol.
Roedd waliau'r deml i gyd (waliau'r brif neuadd a'r cysegr mewnol) wedi eu cerfio drostyn nhw gyda lluniau o geriwbiaid, coed palmwydd a blodau agored.
Roedd ceriwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi eu cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl wedi ei orchuddio gyda haen o aur, hyd yn oed y gwaith cerfio.
Roedd y wal o gwmpas yr iard fewnol (sef yr iard agosaf at y deml ei hun) wedi ei hadeiladu gyda tair rhes o gerrig wedi eu naddu, ac yna paneli o goed cedrwydd.
Cafodd pob manylyn o'r gwaith ei orffen ym Mis Bwl, sef yr wythfed mis, o flwyddyn un deg un o'i deyrnasiad. Felly, roedd y deml wedi cymryd saith mlynedd i'w hadeiladu.