Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Clywais dy weddi a'th ddeisyfiad a wnaethost ger fy mron; cysegrais y tu375? hwn a godaist, a gosod f'enw yno am byth, a bydd fy llygaid a'm calon tuag yno hyd byth.
Ac os byddi di'n rhodio ger fy mron fel y rhodiodd dy dad Dafydd, yn gywir ac uniawn, a gwneud popeth a orchmynnaf iti, a chadw fy neddfau a'm cyfreithiau,
Ond os byddwch chwi a'ch plant yn gwrthgilio oddi wrthyf ac yn peidio chadw fy ngorchmynion a'm hordinhadau, a osodais i chwi, ac os byddwch yn mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli,
yna difodaf Israel o'r tir a rois iddynt, a bwriaf o'm golwg y tu375? a gysegrais i'm henw, a bydd Israel yn mynd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.
Bydd y tu375? hwn yn adfail, a phob un sy'n mynd heibio iddo yn chwibanu mewn syndod, ac yn dweud, 'Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD fel hyn i'r wlad hon ac i'r tu375? hwn?'
A dywedir, 'Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD eu Duw, a ddaeth 'u hynafiaid o'r Aifft, a glynu wrth dduwiau estron a'u haddoli a'u gwasanaethu; dyna pam y dygodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg yma arnynt.'"
Ar derfyn ugain mlynedd, wedi i Solomon adeiladu'r ddau du375?, sef tu375?'r ARGLWYDD a thu375?'r brenin, fe roes y brenin ugain tref yng Ngalilea i Hiram,
Dyma gyfrif y llafur gorfod a bennodd y Brenin Solomon er mwyn adeiladu tu375?'r ARGLWYDD a'i du375? ei hun, a'r Milo, a hefyd mur Jerwsalem a Hasor, Megido a Geser.
Yr oedd Pharo brenin yr Aifft wedi dod a chipio Geser, a'i llosgi, a lladd y Canaaneaid oedd yn byw yn y ddinas, ac yna wedi ei rhoi'n anrheg briodas i'w ferch, gwraig Solomon;
a'r holl ddinasoedd str oedd gan Solomon, a'r dinasoedd cerbydau a'r dinasoedd meirch, a phopeth arall a ddymunai Solomon ei adeiladu, prun ai yn Jerwsalem neu yn Lebanon neu drwy holl gyrrau ei deyrnas.
Yr oedd disgynyddion y rhain yn parhau yn y wlad am nad oedd yr Israeliaid wedi medru eu difa, ac arnynt hwy y gosododd Solomon lafur gorfod sy'n parhau hyd heddiw.
Ni wnaeth Solomon yr un o'r Israeliaid yn gaethwas; hwy oedd ei filwyr, ei swyddogion, ei gadfridogion a'i gapteiniaid a phenaethiaid ei gerbydau a'i feirch,
Byddai Solomon yn offrymu poethoffrymau a heddoffrymau dair gwaith yn y flwyddyn ar yr allor a gododd i'r ARGLWYDD, ac at hynny yn arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD. Felly y gorffennodd y tu375?.