×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

2 Brenhinoedd 1

1
Wedi marw Ahab gwrthryfelodd Moab yn erbyn Israel.
2
Syrthiodd Ahaseia o ffenestr ei lofft yn Samaria a chael ei anafu. Yna anfonodd negeswyr a dweud wrthynt, "Ewch i ymofyn Baal-sebub duw Ecron, a fyddaf yn gwella o'm hanaf."
3
A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Elias y Thesbiad, "Dos i gyfarfod negeswyr brenin Samaria, a dywed wrthynt, 'Ai am nad oes Duw yn Israel yr wyt yn anfon i ymofyn Baal-sebub duw Ecron?
4
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw.'" Ac aeth Elias.
5
Dychwelodd y negeswyr, a gofynnodd Ahaseia iddynt, "Pam yr ydych wedi dychwelyd?"
6
Eu hateb oedd, "Daeth rhyw ddyn i'n cyfarfod a dweud wrthym, 'Ewch yn l at y brenin sydd wedi'ch anfon, a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ai am nad oes Duw yn Israel yr wyt yn anfon i ymofyn Baal-sebub duw Ecron? Am hynny, ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw".'"
7
Gofynnodd y brenin, "Sut un oedd y dyn a ddaeth i'ch cyfarfod a dweud hyn wrthych?"
8
Atebodd y dynion, "Dyn blewog, a gwregys o groen am ei ganol." Ac meddai yntau, "Elias y Thesbiad oedd."
9
Yna anfonodd gapten hanner cant gyda'i ddynion at Elias, a daeth o hyd iddo yn eistedd ar ben bryncyn. Dywedodd wrtho, "Ti u373?r Duw, y mae'r brenin yn gorchymyn iti ddod i lawr."
10
Atebodd Elias y capten, "Os wyf fi'n u373?r Duw, doed tn o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant." A disgynnodd tn o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant.
11
Anfonodd y brenin gapten hanner cant arall gyda'i ddynion; a daeth yntau a dweud, "Gu373?r Duw, dyma a ddywed y brenin: Tyrd i lawr ar unwaith."
12
Atebodd Elias, "Os wyf fi'n u373?r Duw, doed tn o'r nef a'th ddifa di a'th hanner cant."
13
A disgynnodd tn o'r nefoedd a'i ddifa ef a'i hanner cant. Yna anfonwyd trydydd capten hanner cant gyda'i ddynion. Pan ddaeth y trydydd capten i fyny ato, fe syrthiodd ar ei liniau o flaen Elias a chrefu arno, "O u373?r Duw, gad i'm bywyd i, a bywyd yr hanner cant yma o'th weision, fod yn werthfawr yn d'olwg.
14
Y mae tn wedi disgyn o'r nef a difa'r ddau gapten cyntaf a'u dynion, ond yn awr gad i'm bywyd fod yn werthfawr yn d'olwg."
15
Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Elias, "Dos i lawr gydag ef; paid 'i ofni."
16
Yna aeth i lawr gydag ef at y brenin a dweud wrtho, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am iti anfon negeswyr i ymofyn Baal-sebub duw Ecron (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn am ei air?), ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw."
17
A marw a wnaeth, yn unol gair yr ARGLWYDD, a lefarodd Elias. Am nad oedd ganddo fab, daeth Jehoram yn frenin yn ei le, yn ail flwyddyn Jehoram fab Jehosaffat, brenin Jwda.
18
Am weddill y pethau a wnaeth Ahaseia, onid ydynt wedi eu hysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau