Yr oedd gan Ahab ddeg a thrigain o feibion yn Samaria. Ysgrifennodd Jehu lythyrau a'u hanfon i Samaria at swyddogion y ddinas, yr henuriaid a'r rhai oedd yn gofalu am blant Ahab, gan ddweud,
Yna anfonodd goruchwyliwr y palas a llywodraethwr y ddinas a'r henuriaid a'r gwarcheidwaid at Jehu a dweud, "Dy weision di ydym, a gwnawn bopeth a ddywedi wrthym; nid ydym am ddewis neb yn frenin; gwna di'r hyn sydd orau gennyt."
Ysgrifennodd ail lythyr atynt, gan ddweud, "Os ydych o'm plaid ac am ufuddhau imi, cymerwch bennau holl feibion eich arglwydd, a dewch ataf i Jesreel tua'r amser hwn yfory." Yr oedd meibion y brenin, deg a thrigain ohonynt, yn cael eu magu gydag uchelwyr y ddinas.
Aeth yntau allan yn y bore a sefyll yno a dweud wrth yr holl bobl, "Yr ydych chwi'n bobl deg. Edrychwch, gwneuthum i gynllwyn yn erbyn f'arglwydd a'i ladd, ond pwy a laddodd y rhain i gyd?
Gwelwch felly nad yw'r un gair o'r hyn a lefarodd yr ARGLWYDD yn erbyn teulu Ahab wedi methu; y mae'r ARGLWYDD wedi gwneud yr hyn a addawodd drwy ei was Elias."
cyfarfu brodyr Ahaseia brenin Jwda, a gofyn, "Pwy ydych chwi?" Atebasant, "Brodyr Ahaseia, ac yr ydym yn mynd i gyfarch plant y brenin a phlant y fam frenhines."
Wedi iddo ymadael oddi yno, gwelodd Jehonadab fab Rechab yn dod i'w gyfarfod. Cyfarchodd ef a gofyn, "A wyt ti mor ddiffuant gyda mi ag yr wyf fi gyda thi?" Atebodd Jehonadab, "Ydwyf." Yna dywedodd Jehu, "Os wyt, estyn dy law." Estynnodd ei law, a chymerodd yntau ef ato i'r cerbyd,
Aeth ag ef yn ei gerbyd, a phan ddaeth i Samaria, lladdodd bawb oedd yn weddill o deulu Ahab yn Samaria, a'u difa, yn l y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Elias.
Felly galwch ataf holl broffwydi Baal, ei holl addolwyr a'i holl offeiriaid, heb adael yr un ar l, oherwydd rwyf am gynnal aberth mawr i Baal, ac ni chaiff neb fydd yn absennol fyw." Ond gweithredu'n gyfrwys yr oedd Jehu, er mwyn difa addolwyr Baal.
Yna daeth Jehu a Jehonadab fab Rechab at deml Baal, a dweud wrth addolwyr Baal, "Chwiliwch yn fanwl rhag bod neb o addolwyr yr ARGLWYDD yna gyda chwi, dim ond addolwyr Baal yn unig."
A phan aethant i offrymu aberthau a phoethoffrymau, gosododd Jehu bedwar ugain o'i ddynion y tu allan a dweud, "Os bydd un o'r bobl a roddais yn eich llaw yn dianc, cymeraf fywyd un ohonoch chwi yn ei le."
Ar l gorffen poethoffrymu, dywedodd Jehu wrth y gwarchodlu a'r swyddogion, "Dewch, lladdwch hwy heb adael i neb ddianc," a lladdasant hwy 'r cleddyf. Yna rhuthrodd y gwarchodlu a'r swyddogion at du373?r teml Baal,
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Jehu, "Gan dy fod wedi rhagori mewn gwneud yr hyn sy'n iawn yn fy ngolwg, a gwneud y cyfan oedd yn fy mwriad yn erbyn teulu Ahab, bydd plant i ti hyd y bedwaredd genhedlaeth yn eistedd ar orsedd Israel."