ond ni roddodd blant y lleiddiaid i farwolaeth, yn unol 'r hyn sy'n ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, lle mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn, "Na rodder rhieni i farwolaeth o achos eu plant, na phlant o achos eu rhieni; am ei bechod ei hun y rhoddir un i farwolaeth."
Anfonodd Joas brenin Israel yn l at Amaseia brenin Jwda, a dweud, "Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon yn dweud, 'Rho dy ferch yn wraig i'm mab.' Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.
Wedi i Joas brenin Israel ddal Amaseia fab Jehoas, fab Ahaseia, brenin Jwda, yn Beth-semes, aeth yn ei flaen i Jerwsalem a thorri i lawr fur Jerwsalem o borth Effraim hyd borth y gongl, sef pedwar can cufydd.
Adferodd oror Israel o Lebo-hamath hyd Fr yr Araba, yn unol 'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, drwy ei was Jona fab Amittai y proffwyd o Gath-heffer.
Am weddill hanes Jeroboam, a'r cwbl a wnaeth, a'i wrhydri wrth ymladd ac wrth adfer Damascus a Hamath-iawdi i Israel, onid yw wedi ei ysgrif-ennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?