Ugain oed oedd Ahas pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un mlynedd ar bymtheg yn Jerwsalem; ond ni wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw fel y gwnaeth ei dad Dafydd.
Dilynodd esiampl brenhinoedd Israel, ac yn waeth, fe barodd i'w fab fynd trwy dn yn l arfer ffiaidd y cenhedloedd a ddisodlodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.
Yr adeg honno daeth Resin brenin Syria a Pecach fab Remaleia brenin Israel i ryfela yn erbyn Jerwsalem. Rhoesant warchae ar Ahas, ond methu ei gael i frwydro.
Y pryd hwnnw enillwyd Elath yn l i Edom gan frenin Edom, a gyrrodd ef yr Iddewon allan o Elath. Daeth yr Edomiaid yn l i Elath, ac y maent yn byw yno hyd heddiw.
Anfonodd Ahas genhadau at Tiglath-pileser brenin Asyria a dweud, "Gwas a deiliad i ti wyf fi; tyrd i'm gwaredu o law brenhinoedd Syria ac Israel, sy'n ymosod arnaf."
Yna aeth y Brenin Ahas i Ddamascus i gyfarfod Tiglath-pileser brenin Asyria. Gwelodd yno allor, ac anfonodd batrwm ohoni a holl fanylion ei gwneuthuriad at Ureia yr offeiriad.
Symudodd yr allor bres a arferai fod gerbron yr ARGLWYDD ym mlaen y tu375?, a'i gosod rhwng yr allor newydd a thu375?'r ARGLWYDD, ar ochr ogleddol yr allor honno.
A gorchmynnodd y Brenin Ahas i'r offeiriad Ureia, "Ar yr allor fawr yr wyt i losgi'r poethoffrwm boreol a'r bwydoffrwm hwyrol, a hefyd poethoffrwm a bwydoffrwm y brenin, a phoethoffrwm holl bobl y wlad ynghyd 'u bwydoffrwm a'u diodoffrymau. Ac yn ei herbyn hi y lluchi holl waed y poethoffrymau a'r aberthau. Ond ar fy nghyfer i y bydd yr allor bres i ymofyn wrthi."
Tynnodd y Brenin Ahas fframiau'r trolau a gwneud i ffwrdd 'u carfanau a'r noe; hefyd dymchwelodd y mr oddi ar gefn yr ychen pres a fu dano, a'i osod ar sylfaen o gerrig.