Yna anfonodd Eliacim, arolygwr y palas, a Sebna'r ysgrifennydd a'r rhai hynaf o'r offeiriaid, i gyd mewn sachliain, at y proffwyd Eseia fab Amos, i ddweud wrtho,
"Fel hyn y dywed Heseceia: 'Y mae heddiw'n ddydd o gyfyngder a cherydd a gwarth; y mae fel pe bai plant ar fin cael eu geni, a'r fam heb nerth i esgor.
O na fyddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn gwrando ar eiriau'r prif swyddog a anfonwyd gan ei feistr, brenin Asyria, i gablu'r Duw byw, ac y byddai yn ei geryddu am y geiriau a glywodd yr ARGLWYDD dy Dduw! Felly dos i weddi dros y gweddill sydd ar l.'"
dywedodd Eseia wrthynt, "Dywedwch wrth eich meistr, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Paid ag ofni'r pethau a glywaist, pan oedd llanciau brenin Asyria yn fy nghablu.
"Dywedwch wrth Heseceia brenin Jwda, 'Paid chymryd dy dwyllo gan dy Dduw yr wyt yn ymddiried ynddo, ac sy'n dweud na roddir Jerwsalem i afael brenin Asyria.
Cymerodd Heseceia y neges gan y cenhadau a'i darllen. Yna aeth i fyny i'r deml, a'i hagor yng ngu373?ydd yr ARGLWYDD, a gweddo fel hyn o flaen yr ARGLWYDD:
'Clywais yr hyn a weddaist ynglu375?n Senacherib brenin Asyria, a dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn ei erbyn: Y mae'r forwyn, merch Seion, yn dy ddirmygu, yn chwerthin am dy ben; y mae merch Jerwsalem yn ysgwyd ei phen ar dy l.
Trwy dy weision fe geblaist yr Arglwydd, a dweud, "Gyda lliaws fy ngherbydau dringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd, i bellterau Lebanon; torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd; euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog.
Oni chlywaist erstalwm mai myfi a'i gwnaeth, ac imi lunio hyn yn y dyddiau gynt? Bellach rwy'n ei ddwyn i ben; bydd dinasoedd caerog yn syrthio yn garneddau wedi eu dinistrio;
Am dy fod yn gynddeiriog yn f'erbyn, a bod sen dy draha yn fy nghlustiau, fe osodaf fy mach yn dy ffroen a'm ffrwyn yn dy weflau, a'th yrru'n l ar hyd y ffordd y daethost."
"'Hyn fydd yr arwydd i ti: eleni, bwyteir yr u375?d sy'n tyfu ohono'i hun, a'r flwyddyn nesaf, yr hyn sydd wedi ei hau ohono'i hun; ond yn y drydedd flwyddyn cewch hau a medi, a phlannu gwin-llannoedd a bwyta eu ffrwyth.
"Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am frenin Asyria: 'Ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, nac anfon saeth i'w mewn; nid ymesyd arni tharian, na chodi clawdd i'w herbyn.
A'r noson honno aeth angel yr ARGLWYDD allan a tharo yng ngwersyll Asyria gant a phedwar ugain a phump o filoedd; pan ddaeth y bore cafwyd hwy i gyd yn gelanedd meirwon.
Pan oedd yn addoli yn nheml ei dduw Nisroch, daeth ei feibion Adrammelech a Sareser a'i ladd 'r cleddyf, ac yna dianc i wlad Ararat. Daeth ei fab Esarhadon i'r orsedd yn ei le.