A dywedodd Elias wrth Eliseus, "Aros di yma, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon i Fethel." Dywedodd Eliseus, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf." Felly aethant i Fethel.
Daeth y proffwydi oedd ym Methel at Eliseus a dweud wrtho, "A wyddost ti fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat heddiw?" "Gwn yn iawn," meddai yntau, "peidiwch dweud."
Dywedodd Elias wrtho, "Eliseus, aros di yma, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon i Jericho." Dywedodd yntau, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf." Felly aethant i Jericho.
Daeth y proffwydi oedd yn Jericho at Eliseus a dweud wrtho, "A wyddost ti fod yr ARGLWYDD am gymryd dy feistr oddi arnat heddiw?" "Gwn yn iawn," meddai yntau, "peidiwch dweud."
Dywedodd Elias wrtho, "Aros di yma oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon at yr Iorddonen." Dywedodd yntau, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf." Felly aethant ill dau.
Wedi iddynt groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus, "Gofyn! Beth a wnaf iti cyn fy nghymryd oddi wrthyt?" Atebodd Eliseus, "Rhodder imi gyfran ddwbl o'th ysbryd."
Ac yr oedd Eliseus yn syllu ac yn gweiddi, "Fy nhad, fy nhad; cerbyd a marchogion Israel!" Ni welodd ef wedyn, a chydiodd yn ei wisg a'i rhwygo'n ddau.
Cymerodd y fantell a syrthiodd oddi ar Elias, a tharo'r du373?r a dweud, "Ple y mae'r ARGLWYDD, Duw Elias?" Trawodd yntau'r du373?r, ac fe ymrannodd i'r ddeutu, a chroesodd Eliseus.
Ac aethant i'w gyfarfod ac ymgrymu hyd lawr iddo, a dweud, "Y mae gan dy weision hanner cant o ddynion cryfion; gad iddynt fynd i chwilio am dy feistr rhag ofn bod ysbryd yr ARGLWYDD, ar l ei gipio i fyny, wedi ei fwrw ar un o'r mynyddoedd, neu i ryw gwm." Dywedodd, "Peidiwch ag anfon."
Ond buont yn daer nes bod cywilydd arno, a dywedodd, "Anfonwch." Wedi iddynt anfon hanner cant o ddynion, buont yn chwilio am dridiau, ond heb ei gael.
Dywedodd trigolion y dref wrth Eliseus, "Edrych, y mae safle'r dref yn ddymunol, fel y sylwi, O feistr, ond y mae'r du373?r yn wenwynig a'r tir yn ddiffrwyth."
Wedi iddynt ddod ag ef ato, aeth at lygad y ffynnon a thaflu'r halen iddi a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Purais y dyfroedd hyn; ni ddaw angau na diffrwythdra oddi yno mwy."
Aeth i fyny oddi yno i Fethel, ac fel yr oedd yn mynd, daeth bechgyn bach allan o ryw dref a'i wawdio a dweud wrtho, "Dos i fyny, foelyn! Dos i fyny, foelyn!"