Wyth mlwydd oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un ar ddeg ar hugain o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jedida merch Adaia o Boscath oedd enw ei fam.
"Dos at Hilceia yr archoffeiriad, er mwyn iddo gyfrif yr arian a ddygwyd i du375?'r ARGLWYDD ac a gasglodd ceidwaid y drws gan y bobl, i'w trosglwyddo i'r goruchwylwyr sy'n gofalu am du375?'r ARGLWYDD.
Y maent i'w rhoi yn awr i'r goruchwylwyr ar du375?'r ARGLWYDD, a hwythau i'w rhoi i'r gweithwyr yn nhu375?'r ARGLWYDD, sy'n atgyweirio agennau'r tu375?,
Dywedodd yr archoffeiriad Hilceia wrth Saffan yr ysgrifennydd, "Cefais lyfr y gyfraith yn nhu375?'r ARGLWYDD." A rhoddodd y llyfr i Saffan i'w ddarllen.
Yna aeth Saffan yr ysgrifennydd yn l at y brenin, a dwyn adroddiad iddo, a dweud, "Y mae dy weision wedi cyfrif yr arian oedd yn y deml, ac wedi eu trosglwyddo i'r goruchwylwyr sy'n gofalu am du375?'r ARGLWYDD."
"Ewch i ymgynghori 'r ARGLWYDD ar fy rhan, ac ar ran y bobl a holl Jwda, ynglu375?n chynnwys y llyfr hwn a ddaeth i'r golwg; oherwydd y mae llid yr ARGLWYDD yn fawr, ac wedi ei ennyn yn ein herbyn am na wrandawodd ein hynafiaid ar eiriau'r llyfr hwn, na gwneud yr hyn a ysgrifennwyd ar ein cyfer."
Aeth yr offeiriad Hilceia, ac Ahicam ac Achbor a Saffan ac Asaia, at y broffwydes Hulda, gwraig Salum fab Ticfa, fab Harhas, ceidwad y gwisgoedd. Yr oedd hi'n byw yn yr Ail Barth yn Jerwsalem; ac wedi iddynt ddweud eu neges,
am eu bod wedi fy ngwrthod ac wedi arogldarthu i dduwiau eraill, i'm digio ym mhopeth a wnnt; y mae fy nig wedi ei ennyn yn erbyn y lle hwn, ac nid oes a'i diffydd.'
A dyma a ddywedwch wrth frenin Jwda, a'ch anfonodd i ymgynghori 'r ARGLWYDD: 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, ynglu375?n 'r geiriau a glywaist:
Am i'th galon dyneru, ac iti ymostwng o flaen yr ARGLWYDD pan glywaist fi'n dweud am y lle hwn a'i drigolion, y byddai'n ddifrod ac yn felltith, ac am iti rwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen, yr wyf finnau wedi gwrando, medd yr ARGLWYDD.
Ac am hynny casglaf di at dy hynafiaid, a dygir di i'r bedd mewn heddwch, ac ni wl dy lygaid y drwg a ddygaf ar y lle hwn.'" Dygasant hwythau'r ateb i'r brenin.