Teyrnasodd am ddeuddeng mlynedd, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad cymaint 'i dad a'i fam, oherwydd bwriodd allan y golofn Baal a wnaeth ei dad.
Anfonodd hefyd at Jehosaffat brenin Jwda a dweud, "Y mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn f'erbyn; a ddoi di gyda mi i ymladd yn erbyn Moab?" Dywedodd yntau, "Dof gam a cham gyda thi, dyn am ddyn, a march am farch."
Felly aeth brenin Israel, brenin Jwda, a brenin Edom ar daith gylch o saith diwrnod, ac nid oedd du373?r i'r fyddin nac i'r anifeiliaid oedd yn eu canlyn.
Yna dywedodd Jehosaffat, "Onid oes yma broffwyd i'r ARGLWYDD, fel y gallwn ymofyn 'r ARGLWYDD drwyddo?" Atebodd un o weision brenin Israel, "Y mae Eliseus fab Saffat, a fu'n tywallt du373?r dros ddwylo Elias, yma."
Dywedodd Eliseus wrth frenin Israel, "Beth sydd a wnelom ni 'n gilydd? Dos at broffwydi dy dad a'th fam." Dywedodd brenin Israel wrtho, "Nage; yr ARGLWYDD sydd wedi galw'r tri brenin hyn i'w rhoi yn llaw Moab."
Atebodd Eliseus, "Cyn wired bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, oni bai fy mod yn parchu Jehosaffat brenin Jwda, ni fyddwn yn talu sylw iti nac yn edrych arnat.
Pan glywodd pobl Moab fod y brenhinoedd wedi dod i ryfel yn eu herbyn, galwyd i'r gad bob un oedd yn ddigon hen i drin arfau; ac yr oeddent yn sefyll ar y goror.
Yna aethant i ddistrywio'r dinasoedd, a thaflu bawb ei garreg a llenwi pob darn o dir da, a chau pob ffynnon ddu373?r, a chwympo pob pren teg, nes gadael dim ond Cir-hareseth; ac amgylchodd y ffon-daflwyr hi, a'i tharo hithau.
Felly cymerodd ei fab cyntafanedig, a fyddai'n teyrnasu ar ei l, ac offrymodd ef yn aberth ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel, a chiliasant oddi wrtho a dychwelyd i'w gwlad.