Dyma wraig un oedd yn aelod o'r urdd o broffwydi yn dod at Eliseus a pledio am ei help. “Roedd fy ngŵr i yn un o dy ddynion di,” meddai, “ac fel ti'n gwybod, roedd e'n ddyn duwiol. Ond mae e wedi marw, a nawr mae rhywun roedd e mewn dyled iddo wedi dod i gasglu'r ddyled, ac mae am gymryd fy nau fab yn gaethweision.”
Felly dyma hi'n mynd i wneud hynny, ac yn cau'r drws arni hi a'i dau fab. Wrth i'w meibion ddod â mwy a mwy o lestri iddi, roedd hi'n eu llenwi gyda'r olew.
Pan oedd hi wedi llenwi'r llestri i gyd, dyma hi'n dweud wrth ei mab, “Tyrd â potyn arall i mi.” Ond dyma fe'n ateb, “Does dim mwy ar ôl.” A dyma'r olew yn darfod.
Pan aeth hi i ddweud wrth y proffwyd beth oedd wedi digwydd, dyma fe'n dweud wrthi, “Dos i werthu'r olew a talu dy ddyledion. Wedyn cei di a dy feibion fyw ar yr arian fydd dros ben.”
Un tro roedd Eliseus yn pasio heibio Shwnem. Roedd yna wraig bwysig yn byw yno, ac dyma hi'n mynnu bod Eliseus yn bwyta gyda hi. Felly bob tro roedd Eliseus yn mynd heibio Shwnem roedd e'n arfer galw heibio am bryd o fwyd.
Roedd Eliseus wedi gofyn iddo ddweud wrthi, “Ti wedi mynd i'r holl drafferth yma. Be allwn ni ei wneud i ti? Alla i ddweud gair da ar dy ran di wrth y brenin, neu wrth bennaeth y fyddin?” Ond dyma hi'n ateb, “Na, mae'r teulu o'm cwmpas i, ac mae gen i bopeth dw i angen.”
Felly dyma Eliseus yn gofyn i Gehasi, “Be allwn ni wneud drosti?” A dyma Gehasi'n ateb, “Wel, does ganddi hi ddim mab, ac mae ei gŵr hi'n mynd yn hen.”
A dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Yr adeg yma'r flwyddyn nesaf, bydd gen ti fab yn dy freichiau.” A dyma hi'n ymateb, “Na, syr! Rwyt ti'n broffwyd Duw. Paid dweud celwydd wrtho i.”
“Pam wyt ti angen mynd i'w weld e heddiw?” meddai'r gŵr. “Dydy hi ddim yn Ŵyl y lleuad newydd nac yn Saboth.” “Paid poeni, mae popeth yn iawn,” meddai.
Ac i ffwrdd â hi i Fynydd Carmel i weld y proffwyd. Gwelodd Eliseus hi'n dod o bell, a dyma fe'n dweud wrth Gehasi ei was, “Edrych, y wraig o Shwnem sydd acw.
Ond pan gyrhaeddodd hi'r proffwyd ar y mynydd dyma hi'n gafael yn ei draed. Dyma Gehasi yn mynd ati gan feddwl ei symud, ond dyma'r proffwyd yn dweud wrtho, “Paid. Gad lonydd iddi. Mae rhywbeth mawr yn ei phoeni. Ond dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dweud wrtho i beth ydy e.”
Dyma Eliseus yn dweud wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, a dos. Cymer fy ffon i. Paid stopio i gyfarch neb ar y ffordd. Dos a cyffwrdd wyneb y bachgen gyda'r ffon.”
Ond dyma fam y plentyn yn dweud, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, dw i ddim am fynd yn ôl hebot ti.” Felly dyma Eliseus yn mynd gyda hi.
Roedd Gehasi wedi mynd o'u blaenau nhw, ac wedi rhoi'r ffon ar wyneb y bachgen. Ond doedd yna dim ymateb o gwbl. Felly aeth yn ôl i'w cyfarfod a dweud, “Wnaeth y bachgen ddim deffro.”
Yna dyma fe'n mynd at y plentyn a gorwedd arno, gan roi ei geg ar geg y plentyn, ei lygaid ar ei lygaid a'i ddwylo ar ei ddwylo. Dyma fe'n ymestyn drosto nes i gorff y plentyn dwymo.
Yna dyma Eliseus yn codi ar ei draed a bu'n cerdded yn ôl a blaen yn y tŷ. Wedyn aeth e'n ôl a gorwedd ar gorff y bachgen eto, a dyma'r bachgen yn tisian saith gwaith ac yn agor ei lygaid.
Dyma Eliseus yn galw Gehasi a dweud wrtho, “Gofyn i fam y bachgen ddod yma.” Dyma Gehasi'n ei galw, a pan ddaeth hi dyma Eliseus yn dweud wrthi, “Cymer dy fab.”
Aeth Eliseus yn ôl i Gilgal, ac roedd yna newyn yn y wlad. Roedd aelodau'r urdd o broffwydi yn ymweld ag Eliseus, a dyma fe'n dweud wrth ei was, “Rho grochan mawr ar y tân i ferwi cawl iddyn nhw.”
Dyma un o'r proffwydi yn mynd allan i gasglu llysiau. Daeth ar draws rhyw blanhigyn gwyllt tebyg i winwydden, a chasglu cymaint o'r ffrwyth ag y gallai ei gario yn ei glogyn. Daeth yn ôl a'u torri'n fân ac yna eu taflu i'r crochan cawl, er nad oedd yn gwybod beth oedden nhw.
“Dewch â blawd i mi,” meddai Eliseus. Yna dyma fe'n taflu'r blawd i'r crochan, a dweud, “Iawn, gallwch ei rannu nawr, i'r dynion gael bwyta”. A doedd dim byd drwg yn y crochan.
Dyma ddyn o Baal-shalisha yn dod â bara wedi ei wneud o ffrwyth cynta'r cynhaeaf i'r proffwyd — dau ddeg torth haidd a tywysennau o rawn aeddfed. Dyma Eliseus yn dweud, “Rhowch nhw i'r dynion gael bwyta.”
Ond dyma'r un oedd yn gweini yn dweud, “Sut alla i fwydo cant o ddynion gyda hyn?” “Rho fe iddyn nhw,” meddai Eliseus, “achos mae'r ARGLWYDD wedi dweud y byddan nhw'n bwyta, a bydd peth dros ben.”