Yr oedd Naaman capten byddin brenin Syria yn ddyn uchel gan ei feistr ac yn fawr ei barch, am mai trwyddo ef yr oedd yr ARGLWYDD wedi gwaredu Syria. Ond aeth y rhyfelwr praff yn u373?r gwahanglwyfus.
Ac meddai brenin Syria, "Dos di, ac anfonaf finnau lythyr at frenin Israel." Yna aeth, a chymryd deg talent o arian, chwe mil o siclau aur a deg pr o ddillad.
Dygodd hefyd at frenin Israel lythyr yn dweud, "Dyma fi'n anfon atat fy ngwas Naaman; cyn gynted ag y derbynni'r llythyr hwn, rwyt i'w wella o'i wahanglwyf."
Pan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, rhwygodd ei ddillad a dweud, "Ai Duw wyf fi i beri marw neu fyw, bod hwn yn anfon ataf i wella dyn o'i wahanglwyf? Sylwch ar hyn, yn awr, a gwelwch mai chwilio am achos yn f'erbyn y mae."
Pan glywodd Eliseus, gu373?r Duw, fod brenin Israel wedi rhwygo'i ddillad, anfonodd at y brenin a dweud, "Pam yr wyt yn rhwygo dy ddillad? Gad iddo ddod ataf fi, er mwyn iddo wybod fod proffwyd yn Israel."
Ffromodd Naaman, ac aeth i ffwrdd a dweud, "Meddyliais y byddai o leiaf yn dod allan a sefyll a galw ar enw'r ARGLWYDD ei Dduw, a symud ei law dros y fan, a gwella'r gwahanglwyf.
Onid yw Abana a Pharpar, afonydd Damascus, yn well na holl ddyfroedd Israel? Oni allwn ymolchi ynddynt hwy, a dod yn ln?" Trodd, a mynd i ffwrdd yn ei ddig.
Ond daeth ei weision ato a dweud wrtho, "Petai'r proffwyd wedi dweud rhywbeth mawr wrthyt, oni fyddit wedi ei wneud? Onid rheitiach felly gan mai dim ond 'Ymolch a bydd ln' a ddywedodd?"
Yna dychwelodd ef a'i holl fintai at u373?r Duw, a sefyll o'i flaen a dweud, "Dyma fi'n gwybod yn awr nad oes Duw mewn un wlad ond yn Israel; felly, derbyn yn awr anrheg oddi wrth dy was."
Ac er pwyso arno i gymryd, gwrthod a wnaeth. Dywedodd Naaman, "Os na chymeri, ynteu, rhodder llwyth cwpl o fulod o bridd i mi, dy was, gan na fyddaf ar l hyn yn offrymu poethoffrwm nac aberth i'r un duw arall ond i'r ARGLWYDD.
Ond yn unig maddeued yr ARGLWYDD imi pan fydd fy meistr yn mynychu teml Rimmon i addoli yno, ac yn pwyso ar fy llaw, byddaf finnau'n moesymgrymu yn nheml Rimmon pan fydd ef yn ymgrymu yno. Maddeued yr ARGLWYDD i'th was am y peth hwn."
meddyliodd Gehasi, gwas Eliseus gu373?r Duw, "Y mae fy meistr wedi arbed y Syriad hwn, Naaman, drwy wrthod derbyn yr hyn a ddygodd; cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, mi redaf ar ei l i gael rhywbeth ganddo."
"Ydyw, yn iawn," meddai yntau, "fy meistr sydd wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o ucheldir Effraim; bydd cystal rhoi iddynt dalent o arian a dau br o ddillad."
Atebodd Naaman, "Ar bob cyfrif; cymer ddwy dalent." Bu'n daer arno; clymodd ddwy dalent mewn dwy god, a'u rhoi gyda dau br o ddillad i ddau o'i weision i'w cario o'i flaen.
Ond dywedodd Eliseus, "Onid oedd fy nghalon gyda thi pan ddisgynnodd y gu373?r o'i gerbyd i'th gyfarfod, a phan dderbyniaist yr arian? Pryn ddillad a gerddi olewydd a gwinllannoedd a defaid a gwartheg a gweision a morynion;