Yr oedd Eliseus wedi dweud wrth y wraig yr adfywiodd ei mab, "Muda oddi yma, ti a'th deulu, a dos i fyw lle medri, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi newyn, a bydd yn y wlad am saith mlynedd."
Ac fel yr oedd Gehasi'n adrodd wrth y brenin amdano'n adfywio un oedd wedi marw, dyna'r wraig yr adfywiodd ei mab yn dod i erfyn ar y brenin am ei thu375? a'i thir. Ac meddai Gehasi, "F'arglwydd frenin, hon yw'r wraig, a dyma'r mab a adfywiodd Eliseus."
Holodd y brenin hi, ac adroddodd hithau'r hanes wrtho. Yna penododd y brenin swyddog i ofalu amdani, a dweud wrtho, "Rho'n l iddi ei heiddo i gyd, a chynnyrch y tir hefyd o'r diwrnod y gadawodd y wlad hyd heddiw."
Aeth Hasael ato gyda deugain llwyth camel o holl nwyddau gorau Damascus yn rhodd. Ar l cyrraedd, safodd o'i flaen a dweud, "Y mae dy fab, Ben-hadad brenin Syria, wedi f'anfon atat i ofyn, 'A fyddaf yn gwella o'r clefyd hwn?'"
Gofynnodd Hasael, "Pam y mae f'arglwydd yn wylo?" Atebodd, "Am fy mod yn gwybod maint y niwed a wnei i'r Israeliaid: bwrw tn i'w caerau a lladd eu hieuenctid 'r cleddyf, mathru'r plant bach a rhwygo'r beichiog."
Dywedodd Hasael, "Sut y gall dy was, nad yw ond ci, wneud peth mor fawr hyn?" Atebodd Eliseus, "Y mae'r ARGLWYDD wedi dy ddangos imi yn frenin ar Syria."
Ymadawodd ag Eliseus, a phan ddaeth at ei feistr, gofynnodd hwnnw iddo, "Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt?" Atebodd yntau, "Dweud wrthyf y byddi'n sicr o wella."
Croesodd Jehoram i Sair a'i holl gerbydau gydag ef; cododd liw nos ac ymosododd ef a'i gerbydwyr ar yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu, ond ffodd y fyddin adref.
Dilynodd yr un llwybr thu375? Ahab, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tu375? Ahab, am ei fod yn perthyn trwy briodas i du375? Ahab.
Ciliodd y Brenin Joram i Jesreel i geisio gwellhad o'r clwyfau a gafodd gan y Syriaid yn Rama yn y frwydr yn erbyn Hasael brenin Syria. A daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, i edrych am Joram fab Ahab yn Jesreel am ei fod yn glaf.