×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

1 Cronicl 14

1
Anfonodd Hiram brenin Tyrus negeswyr at Ddafydd, a hefyd goed cedrwydd, seiri maen a seiri coed i adeiladu tu375? iddo.
2
Sylweddolodd Dafydd fod yr ARGLWYDD wedi ei gadarnhau yn frenin ar Israel, a bod ei frenhiniaeth wedi ei dyrchafu'n uchel er mwyn ei bobl Israel.
3
Cymerodd Dafydd ychwaneg o wragedd yn Jerwsalem a chenhedlu rhagor o feibion a merched.
4
Dyma enwau'r plant a gafodd yn Jerwsalem: Sammua, Sobab, Nathan, Solomon,
5
Ibhar, Elisua, Elpalet,
6
Noga, Neffeg, Jaffia,
7
Elisama, Beeliada ac Eliffelet.
8
Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi ei eneinio'n frenin ar Israel gyfan, aethant oll i chwilio amdano, ond clywodd ef am hyn ac aeth allan i'w herbyn.
9
Wedi i'r Philistiaid ddod ac ymledu dros ddyffryn Reffaim,
10
gofynnodd Dafydd i Dduw, "A af i fyny yn erbyn y Philistiaid? A roi di hwy yn fy llaw?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Dos i fyny, oherwydd yn sicr fe rof y Philistiaid yn dy law."
11
Felly pan aethant i fyny i Baal-perasim, fe drawodd Dafydd hwy yno, a dweud, "Fel toriad dyfroedd, fe dorrodd Duw drwy fy ngelynion 'm llaw i." Dyma pam y galwyd y lle hwnnw, Baal-perasim.
12
A phan adawsant eu duwiau ar l yno, gorchmynnodd Dafydd eu llosgi thn.
13
Unwaith eto ymledodd y Philistiaid dros y dyffryn.
14
Pan ymofynnodd Dafydd Duw drachefn, dywedodd Duw wrtho, "Paid mynd i fyny ar eu hl; dos ar gylch oddi wrthynt, a thyrd arnynt gyferbyn 'r morwydd.
15
Yna pan glywi su373?n cerdded ym mrig y morwydd, dos allan i ryfel, oherwydd bydd Duw yn mynd allan o'th flaen i daro gwersyll y Philistiaid."
16
A gwnaeth Dafydd fel y gorchmynnodd Duw iddo, ac fe drawsant wersyll y Philistiaid o Gibeon hyd Geser.
17
Ac aeth enw Dafydd drwy'r gwledydd i gyd, a gwnaeth yr ARGLWYDD i'r holl genhedloedd ei ofni.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau