×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

1 Cronicl 19

1
Wedi hyn bu farw Nahas brenin yr Ammoniaid, a daeth ei fab yn frenin yn ei le.
2
Dywedodd Dafydd, "Gwnaf garedigrwydd Hanun fab Nahas, fel y gwnaeth ei dad mi." Felly anfonodd negeswyr i'w gysuro am ei dad. Ond pan ddaeth gweision Dafydd i wlad yr Ammoniaid at Hanun i'w gysuro,
3
dywedodd tywysogion yr Ammoniaid wrth Hanun, "A wyt ti'n tybio mai anrhydeddu dy dad y mae Dafydd wrth anfon cysurwyr atat? Onid er mwyn chwilio'r wlad a'i hysbo a'i goresgyn y daeth ei weision atat?"
4
Yna cymerodd Hanun weision Dafydd a'u heillio, a thorri gwisg pob un yn ei hanner hyd at ei gluniau, a'u hanfon hwy ymaith.
5
Pan ddywedwyd wrth Ddafydd am y dynion, fe anfonodd rai i'w cyfarfod, am fod cywilydd mawr arnynt, a dweud wrthynt am aros yn Jericho a pheidio dychwelyd nes y byddai eu barfau wedi tyfu.
6
Pan welsant eu bod yn ffiaidd gan Ddafydd, anfonodd Hanun a'r Ammoniaid fil o dalentau arian i gyflogi cerbydau a marchogion o Mesopotamia, Syria-maacha a Soba.
7
Cyflogasant ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, yn ogystal brenin Maacha a'i fyddin, a daethant i wersyllu o flaen Medeba. Ymgasglodd yr Ammoniaid hefyd o'u dinasoedd a dod allan i ryfel.
8
Pan glywodd Dafydd, anfonodd Joab allan gyda'r holl fyddin a'r milwyr.
9
Daeth yr Ammoniaid allan a ffurfio rhengoedd ar gyfer y frwydr ger porth y ddinas, ac yr oedd y brenhinoedd, a oedd wedi dod, ar eu pennau eu hunain mewn tir agored.
10
Pan welodd Joab y byddai'n gorfod ymladd o'r tu blaen ac o'r tu l, dewisodd wu375?r dethol o fyddin Israel, a'u trefnu mewn rhengoedd i wynebu'r Syriaid.
11
Gosododd weddill y fyddin dan awdurdod ei frawd Abisai, a safasant yn rhengoedd i wynebu'r Ammoniaid.
12
A dywedodd, "Os bydd y Syriaid yn drech na mi, tyrd di i'm cynorthwyo; ac os bydd yr Ammoniaid yn drech na thi, dof finnau i'th gynorthwyo di.
13
Bydd yn wrol! Byddwn ddewr dros ein pobl a dinasoedd ein Duw; a bydded i'r ARGLWYDD wneud yr hyn sy'n dda yn ei olwg."
14
Yna nesaodd Joab a'r milwyr oedd gydag ef i ryfel yn erbyn y Syriaid, a ffoesant o'i flaen.
15
Pan welodd yr Ammoniaid fod y Syriaid wedi ffoi, ffoesant hwythau o flaen Abisai ei frawd, a mynd i'r ddinas. Yna dychwelodd Joab i Jerwsalem.
16
Pan welodd y Syriaid iddynt golli'r dydd o flaen Israel, anfonasant negeswyr i gyrchu'r Syriaid o Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, gyda Sobach, pencapten byddin Hadadeser, yn eu harwain.
17
Pan ddywedwyd wrth Ddafydd, fe gasglodd ynghyd Israel gyfan, croesodd yr Iorddonen, a dod atynt a sefyll yn rhengoedd yn eu herbyn. Trefnodd rengoedd yn erbyn y Syriaid, a brwydrasant hwythau yn ei erbyn.
18
Ffodd y Syriaid o flaen Israel, a lladdodd Dafydd ohonynt saith mil o wu375?r cerbyd a deugain mil o wu375?r traed, a hefyd Sobach y pencapten.
19
Pan welodd gweision Hadadeser iddynt golli'r dydd o flaen Israel, gwnaethant heddwch Dafydd a phlygu i'w awdurdod. Wedi hyn yr oedd y Syriaid yn anfodlon rhoi rhagor o gymorth i'r Ammoniaid.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau