Beibl Cymraeg Newydd 2004
|
| 1 |
| Tua throad y flwyddyn, yr adeg y byddai'r brenhinoedd yn mynd i ryfela, arweiniodd Joab y fyddin allan a distrywio Ammon a gosod Rabba dan warchae; ond fe arhosodd Dafydd yn Jerwsalem. Trawodd Joab Rabba a'i dinistrio. |
| 2 |
| Yna cymerodd Dafydd goron eu brenin oddi ar ei ben a chael ei bod yn pwyso talent o aur, a bod gem gwerthfawr ynddi; fe'i rhoed ar ben Dafydd. |
| 3 |
| Dygodd o'r ddinas lawer o ysbail, ac aeth 'r bobl oedd ynddi ymaith a'u gosod i lafurio llifiau a cheibiau heyrn a bwyeill. Gwnaeth Dafydd yr un modd holl drefi'r Ammoniaid, ac yna dychwelodd ef a'r holl fyddin i Jerwsalem. |
| 4 |
| Ar l hynny bu rhyfel yn erbyn y Philistiaid yn Geser. Y tro hwnnw lladdwyd Sippai, un o dylwyth y Reffaim, gan Sibbechai yr Husathiad. |
| 5 |
| A bu rhyfel eilwaith yn erbyn y Philistiaid, a lladdwyd Lahmi, brawd Goliath o Gath, gan Elhanan fab Jair; yr oedd coes gwaywffon Goliath fel carfan gwehydd. |
| 6 |
| Pan fu rhyfel eto yn Gath, yr oedd yno gawr o ddyn gyda chwech o fysedd ar bob llaw a throed, pedwar ar hugain i gyd; ac yr oedd yntau yn hanu o'r Reffaim. |
| 7 |
| Bwriodd sen ar Israel, ond lladdwyd ef gan Jonathan fab Simei, brawd Dafydd. |
| 8 |
| Yr oedd y rhain yn hanu o'r Reffaim yn Gath, a chwympasant trwy law Dafydd a'i weision. |
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh/1chronicles/020.mp3
29
20