Dyma restr o benaethiaid teuluoedd Israel oedd yn gapteiniaid yn y fyddin (ar unedau o fil ac o gant), a'r swyddogion oedd yn gwasanaethu'r brenin mewn gwahanol ffyrdd. Roedd pob adran yn gwasanaethu am un mis y flwyddyn, ac roedd 24,000 o ddynion ym mhob adran.
[16-22] Y swyddogion oedd yn arwain llwythau Israel: [Swyddog] — [Llwyth] Elieser fab Sichri — Reuben Sheffateia fab Maacha — Simeon Chashafeia fab Cemwel — Lefi Sadoc — disgynyddion Aaron Elihw (brawd Dafydd) — Jwda Omri, mab Michael — Issachar Ishmaïa fab Obadeia — Sabulon Ierimoth fab Asriel — Nafftali Hoshea fab Asaseia — Effraim Joel fab Pedaia — hanner llwyth Manasse Ido fab Sechareia — hanner llwyth Manasse (yn Gilead) Iaäsiel fab Abner — Benjamin Asarel fab Ierocham — Dan Y rhain oedd yn arwain llwythau Israel.
Roedd Joab fab Serwia wedi dechrau cyfrif y dynion, ond wnaeth e ddim gorffen. Roedd Duw yn ddig gydag Israel am y peth, felly wnaeth y nifer ddim cael ei gofnodi yn y sgrôl, Hanes y Brenin Dafydd.
Asmafeth fab Adiel oedd yn gyfrifol am stordai'r brenin; Jonathan fab Wseia yn gyfrifol am y stordai brenhinol yn y trefi, pentrefi a'r caerau yn Israel;