1
Dyma feibion Dafydd. Ganwyd iddo yn Hebron: y cyntafanedig, Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles;
2
y trydydd, Absalom, mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur, y pedwerydd, Adoneia, mab Haggith;
3
y pumed, Seffateia, o Abital; y chweched, Ithream, o'i wraig Egla.
4
Ganwyd y chwech yma iddo yn Hebron, lle bu'n teyrnasu am saith mlynedd a chwe mis.
5
Teyrnasodd yn Jerwsalem am dair blynedd ar ddeg ar hugain, ac yno fe anwyd y rhain iddo: Simea, Sobab, Nathan a Solomon; Bathsua ferch Ammiel oedd mam y pedwar.
6
Hefyd naw arall, sef Ibhar, Elisama, Eliffelet,
7
Noga, Neffeg, Jaffia,
8
Elisama, Eliada, Eliffelet, naw.
9
Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd; Tamar oedd eu chwaer.
10
Rehoboam oedd mab Solomon; Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; Jehosaffat ei fab yntau;
11
Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau;
12
Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau;
13
Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau;
14
Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau.
15
Meibion Joseia: Johanan, y cyntafanedig; yr ail, Joacim; y trydydd, Sedeceia; y pedwerydd, Salum.
16
Meibion Joacim: Jechoneia a Sedeceia.
17
Meibion Jechoneia'r carcharor: Salathiel,
18
Malciram, Pedaia, Senasar, Jecameia, Hosama, Nedabeia.
19
Meibion Pedaia: Sorobabel a Simei. Meibion Sorobabel: Mesulam a Hananeia; Selomith oedd eu chwaer hwy,
20
ac yna Hasuba, Ohel, Berecheia, Hasadeia, Jusab-hesed, pump.
21
Meibion Hananeia: Pelatia a Jesaia. Meibion Reffaia: Arnan, Obadeia, Sechaneia.
22
Mab Sechaneia: Semaia. Meibion Semaia: Hattus, Igal, Bareia, Nearia, Saffat, chwech.
23
Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, Asricam, tri.
24
Meibion Elioenai: Hodaia, Eliasib, Pelaia, Accub, Johanan, Dalaia, Anani, saith.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004