×

Beibl Cymraeg 2023

1 Cronicl 3

1
Dyma'r meibion gafodd Dafydd pan oedd yn byw yn Hebron: Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel. Yr ail oedd Daniel, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
2
Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr. Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.
3
Y pumed oedd Sheffateia mab Abital. Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall iddo.
4
Cafodd y chwech yma eu geni pan oedd Dafydd yn Hebron. Roedd yn frenin yno am saith mlynedd a hanner. Yna roedd yn frenin yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd.
5
A dyma'r meibion gafodd e yno: Shamma, Shofaf, Nathan, a Solomon — mam y pedwar oedd Bathseba ferch Ammiel.
6
Naw mab arall Dafydd oedd: Ifchar, Elishwa, Eliffelet,
7
Noga, Neffeg, Jaffia,
8
Elishama, Eliada, ac Eliffelet.
9
Meibion Dafydd oedd y rhain i gyd, heb gyfri plant ei bartneriaid. Tamar oedd eu chwaer nhw.
10
Mab Solomon oedd Rehoboam, wedyn Abeia, ei fab e, ac yn y blaen drwy Asa, Jehosaffat,
11
Jehoram, Ahaseia, Joas,
12
Amaseia, Asareia, Jotham,
13
Ahas, Heseceia, Manasse,
14
Amon, a Joseia
15
a'i bedwar mab e, Iochanan (yr hynaf), yna Jehoiacim, Sedeceia, a Shalwm.
16
Jehoiacim oedd tad Jehoiachin a Sedeceia.
17
Meibion Jehoiachin gafodd ei gaethgludo: Shealtiel,
18
Malciram, Pedaia, Shenatsar, Iecameia, Hoshama, a Nedabeia.
19
Meibion Pedaia: Serwbabel a Shimei. Meibion Serwbabel: Meshwlam a Chananeia; a Shlomit oedd eu chwaer nhw.
20
Y pump arall oedd Chashwfa, Ohel, Berecheia, Chasadeia, a Iwshaf-chesed.
21
Disgynyddion Chananeia: Plateia a Ieshaia, meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, a meibion Shechaneia.
22
Disgynyddion Shechaneia: Shemaia a'i feibion: Chattwsh, Igal, Barïach, Nearia, a Shaffat — chwech i gyd.
23
Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, ac Asricam, tri.
24
Meibion Elioenai: Hodafia, Eliashif, Pelaia, Accwf, Iochanan, Delaia, ac Anani — saith i gyd.
Welsh Bible 2023 (BNET)
Cymdeithas y Beibl 2023
:
Cadw Nodiadau