×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

2 Cronicl 17

1
Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn lle Asa, ac fe benderfynodd ef wrthsefyll Israel.
2
Rhoddodd filwyr ym mhob un o ddinasoedd caerog Jwda, a gosod garsiynau yng ngwlad Jwda ac yn ninasoedd Effraim, sef y dinasoedd a gymerwyd gan ei dad Asa.
3
A bu'r ARGLWYDD gyda Jehosaffat am iddo ddilyn llwybrau cynnar ei dad Dafydd a gwrthod ymofyn 'r Baalim,
4
a throi yn hytrach at Dduw ei hynafiaid a chadw ei orchmynion, a pheidio dilyn esiampl Israel.
5
Felly, sicrhaodd yr ARGLWYDD y frenhiniaeth yn llaw Jehosaffat, ac fe roddodd holl Jwda anrhegion iddo, nes bod ganddo olud a chyfoeth mawr iawn.
6
Dilynodd yr ARGLWYDD yn ffyddlon, a hefyd fe dynnodd ymaith o Jwda yr uchelfeydd a'r delwau o Asera.
7
Yn nhrydedd flwyddyn ei deyrnasiad anfonodd ei dywysogion Ben-hail, Obadeia, Sechareia, Nethaneel a Michaia i ddysgu yn ninasoedd Jwda.
8
Gyda hwy fe aeth y Lefiaid Semaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Semiramoth, Jehonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia, a hefyd yr offeiriaid Elisama a Jehoram.
9
Aeth y rhain i ddysgu yn Jwda, ac yr oedd llyfr cyfraith yr ARGLWYDD ganddynt; teithiasant trwy holl ddinasoedd Jwda gan hyfforddi'r bobl.
10
Daeth ofn yr ARGLWYDD ar holl deyrnasoedd y gwledydd o amgylch Jwda, ac ni ddaethant i ryfela yn erbyn Jehosaffat.
11
Daeth rhai o'r Philistiaid ag anrhegion ac arian teyrnged i Jehosaffat; a daeth yr Arabiaid diadelloedd, sef saith mil saith gant o hyrddod a saith mil saith gant o fychod.
12
Aeth Jehosaffat o nerth i nerth. Adeiladodd gestyll a dinasoedd str yn Jwda, ac yr oedd yn gyfrifol am lawer o waith yn ninasoedd Jwda.
13
Yr oedd ganddo hefyd filwyr nerthol yn Jerwsalem,
14
wedi eu rhestru yn l eu tywythau fel hyn. O Jwda, swyddogion ar uned o fil: Adna yn ben, a chydag ef dri chan mil o wroniaid;
15
y nesaf ato ef, Jehohanan, y capten, gyda dau gant wyth deg o filoedd;
16
yna Amaseia fab Sichri, a oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD o'i wirfodd, gyda dau gan mil o wroniaid.
17
O Benjamin: y gwron Eliada, gyda dau gan mil yn cario bwa a tharian;
18
yna Jehosabad, gyda chant wyth deg o filoedd yn barod i ryfel.
19
Dyma'r rhai oedd yn gwasanaethu'r brenin, ar wahn i'r rhai a osododd ef yn y dinasoedd caerog trwy holl Jwda.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau