×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

2 Cronicl 23

1
Yn y seithfed flwyddyn ymwrolodd Jehoiada, a gwnaeth gynghrair 'r capteiniaid, Asareia fab Jeroham, Ismael fab Jehohanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elisaffat fab Sichri.
2
Aethant hwythau trwy Jwda a chasglu'r Lefiaid o bob dinas, a phennau-teuluoedd Israel, i ddod i Jerwsalem.
3
Yna gwnaeth y gynulleidfa gyfan gyfamod 'r brenin yn nhu375? Dduw. Dywedodd Jehoiada wrthynt, "Dyma fab y brenin! Bydded iddo deyrnasu, fel y dywedodd yr ARGLWYDD y gwni meibion Dafydd.
4
Dyma'r hyn a wnewch: y mae traean ohonoch chwi'r offeiriaid a'r Lefiaid, sy'n dod ar ddyletswydd ar y Saboth, i wylio'r pyrth;
5
traean arall i aros yn nhu375?'r brenin, a thraean i fod wrth Borth y Sylfaen. Bydded i'r holl bobl aros yng nghynteddau tu375?'r ARGLWYDD.
6
Nid oes neb i fynd i mewn i du375?'r ARGLWYDD ond yr offeiriaid a'r Lefiaid sydd ar ddyletswydd; cnt hwy fynd am eu bod yn sanctaidd; rhaid i bawb arall gadw gorchymyn yr ARGLWYDD.
7
Y mae'r Lefiaid i sefyll o amgylch y brenin, pob un 'i arfau yn ei law, a lladder pwy bynnag a ddaw i mewn i'r tu375?; byddant gyda'r brenin lle bynnag yr."
8
Gwnaeth y Lefiaid a holl Jwda bopeth a orchmynnodd yr offeiriad Jehoiada, pob un yn cymryd ei gwmni, y rhai oedd ar ddyletswydd ar y Saboth, a'r rhai oedd yn rhydd, oherwydd nid oedd yr offeiriad Jehoiada wedi rhyddhau yr un o'r adrannau.
9
Yna rhoddodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid y gwaywffyn, y tarianau a'r bwcledi a fu gan Ddafydd ac a oedd yn nhu375? Dduw.
10
Gwnaeth i'r holl bobl sefyll i amgylchu'r brenin, pob un 'i arf yn ei law, ar draws y tu375? o'r ochr dde i'r ochr chwith, o gwmpas yr allor a'r tu375?.
11
Yna dygwyd mab y brenin gerbron, a rhoi'r goron a'r warant iddo. Urddodd Jehoiada a'i feibion ef, a'i eneinio, a dweud, "Byw fyddo'r brenin!"
12
Clywodd Athaleia drwst y bobl yn rhedeg ac yn clodfori'r brenin, a daeth atynt i du375?'r ARGLWYDD.
13
Pan welodd hi y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y fynedfa, gyda'r capteiniaid a'r trwmpedau o amgylch y brenin, a holl bobl y wlad yn llawenhau ac yn canu trwmpedau, a'r cantorion gydag offerynnau yn arwain y moliant, rhwygodd ei dillad a gweiddi, "Brad! brad!"
14
Gorchmynnodd yr offeiriad Jehoiada i'r capteiniaid, swyddogion y fyddin, "Ewch hi y tu allan i gyffiniau'r tu375?, a lladder 'r cleddyf unrhyw un sy'n ei dilyn; ond peidier," meddai'r offeiriad, "'i lladd yn nhu375?'r ARGLWYDD."
15
Felly daliasant hi fel yr oedd yn cyrraedd mynedfa Porth y Meirch i'r palas, a'i lladd yno.
16
Gwnaeth Jehoiada gyfamod y byddai ef ei hun a'r holl bobl a'r brenin yn bobl i'r ARGLWYDD.
17
Aeth yr holl bobl at deml Baal a'i thynnu i lawr, a dryllio'i hallorau a'i delwau'n chwilfriw, a lladd Mattan, offeiriad Baal, o flaen yr allorau.
18
Yna rhoddodd Jehoiada y cyfrifoldeb o edrych ar l tu375?'r ARGLWYDD i'r offeiriaid oedd yn Lefiaid, ac a osodwyd gan Ddafydd dros du375?'r ARGLWYDD i offrymu poethoffrymau i'r ARGLWYDD, fel y mae'n ysgrifenedig yn neddf Moses, ac i wneud hynny gyda llawenydd a chn yn l trefn Dafydd.
19
Gosododd y porthorion wrth byrth tu375?'r ARGLWYDD i sicrhau na fyddai neb oedd yn aflan mewn unrhyw ffordd yn mynd i mewn.
20
Yna daeth Jehoiada 'r capteiniaid, y pendefigion, llywodraethwyr y bobl a holl bobl y wlad, i hebrwng y brenin o du375?'r ARGLWYDD. Daethant trwy'r porth uchaf i'r palas, a gosod y brenin ar yr orsedd frenhinol.
21
Llawenhaodd holl bobl y wlad, a daeth llonyddwch i'r ddinas wedi lladd Athaleia 'r cleddyf.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau