×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

2 Cronicl 31

1
Pan ddaeth hyn i ben, aeth yr holl Israeliaid oedd yn bresennol allan i ddinasoedd Jwda i ddryllio'r colofnau, torri'r prennau Asera, a distrywio'r uchelfeydd a'r allorau trwy holl Jwda, Benjamin, Effraim a Manasse. Ar l eu difa'n llwyr dychwelodd yr holl Israeliaid i'w dinasoedd, pob un i'w gartref ei hun.
2
Trefnodd Heseceia yr offeiriaid a'r Lefiaid yn ddosbarthiadau ar gyfer eu gwasanaeth; yr oedd pob offeiriad a Lefiad yn gyfrifol am y poethoffrwm a'r heddoffrymau, ac yr oeddent i weini a rhoi diolch a moliannu ym mhyrth gwersylloedd yr ARGLWYDD.
3
Cyfrannodd y brenin o'i olud ei hun tuag at y poethoffrymau, sef at boethoffrymau'r bore a'r hwyr a phoethoffrymau'r Sabothau, y newydd-loerau a'r gwyliau penodedig, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
4
Gorchmynnodd i'r bobl oedd yn byw yn Jerwsalem roi i'r offeiriaid a'r Lefiaid eu cyfran, er mwyn iddynt gadw cyfraith yr ARGLWYDD yn well.
5
Pan gyhoeddwyd hyn, daeth yr Israeliaid llawer o flaenffrwyth u375?d, gwin, olew, ml a holl gnwd y maes; daethant degwm llawn o bopeth.
6
Daeth pobl Israel a Jwda oedd yn byw yn ninasoedd Jwda degwm o wartheg a defaid, ac o'r pethau cysegredig a gysegrwyd i'r ARGLWYDD eu Duw, a'u gosod yn bentyrrau.
7
Dechreusant godi'r pentyrrau yn y trydydd mis, a'u gorffen yn y seithfed mis.
8
Pan ddaeth Heseceia a'i swyddogion a gweld y pentyrrau, bendithiasant yr ARGLWYDD a'i bobl Israel.
9
Pan ofynnodd Heseceia i'r offeiriaid a'r Lefiaid ynglu375?n 'r pentyrrau,
10
dywedodd Asareia yr archoffeiriad o du375? Sadoc wrtho, "Er pan ddechreuodd y bobl ddod chyfraniadau i du375?'r ARGLWYDD, bwytasom a chawsom ein digoni, ac y mae llawer yn weddill, oherwydd bendithiodd yr ARGLWYDD ei bobl; dyna pam y mae cymaint ar l fel hyn."
11
Gorchmynnodd Heseceia baratoi ystordai yn nhu375?'r ARGLWYDD; gwnaethant felly,
12
a daeth y bobl 'r blaenffrwyth, y degwm a'r pethau cysegredig i mewn yn ffyddlon. Y pennaeth oedd Conaneia y Lefiad, a'i frawd Simei oedd y nesaf ato.
13
Yn l gorchymyn y Brenin Heseceia ac Asareia pennaeth tu375? Dduw, yr oedd Conaneia a'i frawd Simei yn cael eu cynorthwyo gan oruchwylwyr, sef Jehiel, Ahaseia, Nahath, Asahel, Jerimoth, Josabad, Eliel, Ismacha, Mahath a Benaia.
14
Core fab Imna y Lefiad, y porthor wrth borth y dwyrain, oedd yn gofalu am yr offrymau gwirfoddol i Dduw, ac yn dosbarthu'r cyfraniadau a wnaed i'r ARGLWYDD a'r offrymau mwyaf sanctaidd.
15
Yr oedd Eden, Miniamin, Jesua, Semaia, Amareia a Sechaneia yn ei gynorthwyo yn ninasoedd yr offeiriaid i rannu'n deg i'w brodyr, yn fach a mawr, fesul dosbarth.
16
Yn ychwanegol, rhoddwyd ar y rhestr bob gwryw tair oed a throsodd a oedd yn dod yn ei dro i du375?'r ARGLWYDD i wasanaethu trwy gadw dyletswyddau yn l eu dosbarthiadau.
17
Rhoddwyd ar y rhestr hefyd yr offeiriaid, yn l eu teuluoedd, a'r Lefiaid oedd yn ugain oed a throsodd, yn l eu dyletswyddau a'u dosbarthiadau.
18
Rhoddwyd hwy ar y rhestr gyda'u holl blant, gwragedd, meibion a merched, y cwmni i gyd, am iddynt ymgysegru'n ffyddlon.
19
Ar gyfer meibion Aaron, yr offeiriaid, a oedd yn byw yng nghytir eu dinasoedd, penodwyd dynion ym mhob dinas i roi cyfraniadau i bob gwryw yn eu plith ac i bob un o'r Lefiaid oedd ar y rhestr.
20
Dyma a wnaeth Heseceia trwy holl Jwda; gwnaeth yr hyn oedd dda, uniawn a ffyddlon gerbron yr ARGLWYDD ei Dduw.
21
Pa beth bynnag a wni i geisio ei Dduw yng ngwasanaeth tu375? Dduw, yn l gofynion y gyfraith a'r gorchmynion, fe'i gwni 'i holl galon, a llwyddo.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau