×

Beibl Cymraeg Newydd 2004

2 Cronicl 4

1
Gwnaeth allor bres, ugain cufydd o hyd, ugain cufydd o led a deg cufydd o uchder.
2
Yna fe wnaeth y mr o fetel tawdd; yr oedd yn grwn ac yn ddeg cufydd o ymyl i ymyl, a phum cufydd o uchder, yn mesur deg cufydd ar hugain o gylch.
3
O amgylch y mr, yn ei gylchynu dan ei ymyl am ddeg cufydd, yr oedd rhywbeth tebyg i ychen; yr oeddent mewn dwy res ac wedi eu bwrw'n rhan ohono.
4
Safai'r mr ar gefn deuddeg ych, tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain, a'u cynffonnau at i mewn.
5
Dyrnfedd oedd ei drwch, a'i ymyl wedi ei weithio fel ymyl cwpan neu flodyn lili. Yr oedd yn gallu dal tair mil o bathau.
6
Hefyd fe wnaeth ddeg noe i ymolchi ynddynt, pump ar y dde a phump ar y chwith, ac yn y rhain yr oeddent yn trochi offer y poethoffrwm; ond yn y mr yr oedd yr offeiriaid yn ymolchi.
7
Gwnaeth ddeg canhwyllbren aur yn l y cynllun, a'u rhoi yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith.
8
Gwnaeth ddeg bwrdd a'u gosod yn y deml, pump ar y dde a phump ar y chwith, a hefyd gant o gawgiau aur.
9
Gwnaeth gyntedd yr offeiriaid a'r cyntedd mawr gyda'i ddorau, a thaenodd y dorau phres.
10
Gosododd y mr ar yr ochr dde-ddwyreiniol i'r tu375?.
11
Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen y gwaith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tu375? Dduw:
12
y ddwy golofn; y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith drostynt;
13
y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau;
14
y deg troli; y deg noe ar y trolau;
15
y mr a'r deuddeg ych dano; y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau.
16
Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD o bres gloyw.
17
Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Seredetha yng ngwastadedd yr Iorddonen.
18
Gwnaeth Solomon gymaint o'r holl lestri hyn fel na ellid pwyso'r pres.
19
Gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i du375? Dduw: yr allor aur a'r byrddau i ddal y bara gosod;
20
y canwyllbrennau a'u lampau o aur pur, i oleuo o flaen y gafell yn l y ddefod;
21
y blodau, y llusernau, a'r gefeiliau aur, a hwnnw'n aur perffaith;
22
y sisyrnau, y cawgiau, y llwyau a'r thuserau o aur pur; o aur hefyd yr oedd drws y tu375? a'i ddorau tu mewn i'r cysegr sancteiddiaf, a'r dorau o fewn y cr.
Welsh Bible 2004
Cymdeithas y Beibl 2004 British and Foreign Bible Society 2004
:
Cadw Nodiadau