Pan welodd yr holl Israeliaid y tn a gogoniant yr ARGLWYDD yn dod i lawr ar y tu375?, ymgrymasant yn isel 'u hwynebau i'r llawr, ac addoli a moliannu'r ARGLWYDD a dweud, "Da yw, oherwydd y mae ei gariad hyd byth."
Yr oedd yr offeiriaid yn sefyll ar ddyletswydd, a'r Lefiaid hefyd, gyda'r offerynnau cerdd a wnaeth y Brenin Dafydd i foliannu'r ARGLWYDD pan fyddai'n canu mawl a dweud, "Oherwydd y mae ei gariad hyd byth." Gyferbyn hwy yr oedd yr offeiriaid yn canu utgyrn, a'r holl Israeliaid yn sefyll.
Cysegrodd Solomon ganol y cwrt oedd o flaen tu375?'r ARGLWYDD, gan mai yno'r oedd yn offrymu'r poethoffrymau a braster yr heddoffrwm, am na allai'r allor bres a wnaeth dderbyn y poethoffrwm a'r bwydoffrwm a'r braster.
Ar y trydydd dydd ar hugain o'r seithfed mis anfonodd Solomon y bobl adref yn llawen ac yn falch o galon am y daioni a wnaeth yr ARGLWYDD i Ddafydd ac i Solomon ac i'w bobl Israel.
ac yna bod fy mhobl, a elwir wrth fy enw, yn ymostwng ac yn gweddo, yn fy ngheisio ac yn dychwelyd o'u ffyrdd drygionus, yna fe wrandawaf o'r nef, a maddau eu pechod ac adfer eu gwlad.
Ond os byddwch chwi'n gwrthgilio ac yn gwrthod fy ordinhadau a'm gorch-mynion, a osodais o'ch blaen, ac os byddwch yn mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli,
yna fe ddiwreiddiaf Israel o'm gwlad, a roddais iddynt, a bwriaf o'm golwg y tu375? a gysegrais i'm henw, a'i wneud yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd.
A dywedir, 'Am iddynt wrthod yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a ddaeth hwy o wlad yr Aifft, a glynu wrth dduwiau estron a'u haddoli a'u gwasanaethu; dyna pam y dygodd ef yr holl ddrwg yma arnynt.'"