Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i Jerwsalem i'w brofi chwestiynau caled. Cyrhaeddodd gyda gosgordd niferus iawn camelod yn cludo peraroglau a str fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl,
ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'i esgynfa i fyny i du375?'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd.
Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld 'm llygaid fy hun ac wele, ni ddywedwyd wrthyf mo'r hanner am dy ddoethineb enfawr; yr wyt yn tra rhagori ar yr hyn a glywais.
Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar ei orseddfainc yn frenin iddo. Am i'th Dduw garu Israel a'i sefydlu am byth, y mae wedi dy wneud di'n frenin arnynt, i weinyddu barn a chyfiawnder."
Yna rhoddodd hi i'r brenin chwe ugain talent o aur a llawer iawn o beraroglau a gemau. Ni fu erioed y fath beraroglau 'r rhai a roddodd brenhines Sheba i'r Brenin Solomon.
Gwnaeth y brenin risiau ar gyfer tu375?'r ARGLWYDD a'i du375? ei hun allan o'r coed almug, a hefyd gwnaeth i'r cantorion delynau a nablau na welwyd eu bath o'r blaen yng ngwlad Jwda.
Yr oedd holl lestri gwledda'r Brenin Solomon o aur, a holl offer Tu375? Coedwig Lebanon yn aur pur. Nid oedd yr un ohonynt o arian, am nad oedd bri arno yn nyddiau Solomon.
Yr oedd gweision Hiram yn mynd llongau'r brenin i Tarsis, ac unwaith bob tair blynedd fe ddi llongau Tarsis 'u llwyth o aur, arian ac ifori, ac epaod a pheunod.
Am weddill hanes Solomon, o'r dechrau i'r diwedd, onid yw ar gael yn llyfr Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Aheia o Seilo, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam fab Nebat?