Ond ar unwaith daeth Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr atynt a gofyn, "Pwy a roes ganiatd i chwi ailadeiladu'r tu375? hwn a gorffen ei goedio?"
Dyma gopi o'r llythyr a anfonodd Tatnai, llywodraethwr talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a Setharbosnai a'u cefnogwyr, penaethiaid Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, at y Brenin Dareius.
Bydded hysbys i'r brenin i ni fynd i dalaith Jwda, a gweld tu375?'r Duw mawr yn cael ei adeiladu cherrig enfawr, gyda choed yn y muriau; y mae'r gwaith yn mynd rhagddo ac yn llwyddo dan ofal henuriaid yr Iddewon.
A dyma'r ateb a gawsom: 'Gweision Duw nef a daear ydym ni, ac yr ydym yn ailadeiladu tu375? a godwyd lawer o flynyddoedd yn l; un o frenhinoedd enwog Israel a'i cododd a'i orffen.
Ond am i'n hynafiaid ddigio Duw'r nefoedd, rhoddodd ef hwy i Nebuchadnesar y Caldead, brenin Babilon; dinistriodd yntau'r tu375? hwn a chaethgludo'r bobl i Fabilon.
Yr oedd llestri aur ac arian yn perthyn i du375? Dduw; dygodd Nebuchadnesar hwy o'r deml yn Jerwsalem a'u rhoi yn nheml Babilon, ond cymerodd y Brenin Cyrus hwy o'r deml ym Mabilon a'u rhoi i u373?r o'r enw Sesbassar, a oedd wedi ei benodi'n llywodraethwr.
Felly, os cytuna'r brenin, chwilier yn yr archifau brenhinol ym Mabilon i weld a roes y Brenin Cyrus orchymyn i ailadeiladu'r deml hon yn Jerwsalem. Anfoner i ni ddyfarniad y brenin ynglu375?n 'r mater."