Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Dyma'r enwau oedd ar y copi: Nehemeia y llywodraethwr (mab Hachaleia), a Sedeceia, |
| 2 |
| Seraia, Asareia, Jeremeia, |
| 3 |
| Pashchwr, Amareia, Malcîa, |
| 4 |
| Chattwsh, Shefaneia, Malwch, |
| 5 |
| Charîm, Meremoth, Obadeia, |
| 6 |
| Daniel, Ginnethon, Barŵch, |
| 7 |
| Meshwlam, Abeia, Miamin, |
| 8 |
| Maaseia, Bilgai, a Shemaia. (Y rhain oedd yr offeiriaid.) |
| 9 |
| Yna'r Lefiaid: Ieshŵa fab Asaneia, Binnŵi o glan Chenadad, a Cadmiel. |
| 10 |
| Hefyd: Shefaneia, Hodeia, Celita, Pelaia, Chanan, |
| 11 |
| Micha, Rechob, Chashafeia, |
| 12 |
| Saccwr, Sherefeia, Shefaneia, |
| 13 |
| Hodeia, Bani, a Beninw. |
| 14 |
| Yna penaethiaid y bobl: Parosh, Pachath-Moab, Elam, Sattw, Bani, |
| 15 |
| Bwnni, Asgad, Bebai, |
| 16 |
| Adoneia, Bigfai, Adin, |
| 17 |
| Ater, Chisceia, Asswr, |
| 18 |
| Hodeia, Chashŵm, Betsai, |
| 19 |
| Chariff, Anathoth, Nebai, |
| 20 |
| Magpiash, Meshwlam, Chesir, |
| 21 |
| Meshesafel, Sadoc, Iadwa, |
| 22 |
| Plateia, Chanan, Anaia, |
| 23 |
| Hoshea, Chananeia, Chashwf, |
| 24 |
| Halochesh, Pilcha, Shofec, |
| 25 |
| Rechwm, Chashafna, Maaseia, |
| 26 |
| Achïa, Chanan, Anan, |
| 27 |
| Malŵch, Charîm, a Baana. |
| 28 |
| [28-29] Dyma weddill y bobl yn ymuno gyda'r arweinwyr i dyngu llw y bydden nhw'n ufudd i'r Gyfraith roddodd Duw i'w was Moses. (Roedd hyn yn cynnwys yr offeiriaid, Lefiaid, gofalwyr y giatiau, cantorion, gweision y deml, a pawb oedd wedi gwahanu eu hunain oddi wrth y bobl o wledydd eraill er mwyn bod yn ufudd i gyfraith Duw. Hefyd eu gwragedd, a'u meibion a'u merched, a pawb oedd yn ddigon hen i ddeall.) Os bydden nhw'n anufudd, roedden nhw'n cytuno y bydden nhw dan felltith. Ond roedden nhw'n addo y bydden nhw'n cadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Meistr, a'i reolau a'i ganllawiau. |
| 29 |
| 30 |
| “Wnawn ni ddim rhoi ein merched yn wragedd i'r bobl baganaidd o'n cwmpas, na chymryd eu merched nhw yn wragedd i'n meibion ni. |
| 31 |
| Os bydd y bobloedd eraill yn ceisio gwerthu grawn neu unrhyw nwyddau ar y Saboth (neu ddiwrnod cysegredig arall) wnawn ni ddim prynu ganddyn nhw. Bob saith mlynedd byddwn ni'n gadael ein caeau heb eu trin ac yn canslo pob dyled. |
| 32 |
| Dŷn ni hefyd yn derbyn fod rhaid talu treth flynyddol o un rhan o dair o sicl (sef bron 4 gram o arian) i deml Dduw. |
| 33 |
| Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu am y torthau sydd i'w gosod ar fwrdd o flaen Duw, a'r gwahanol offrymau — yr offrwm dyddiol o rawn a'r offrwm i'w losgi, offrymau'r Sabothau, yr offrymau misol ar Ŵyl y lleuad newydd a'r gwyliau eraill, unrhyw offrymau eraill sydd wedi eu cysegru i Dduw, a'r offrymau puro o bechod sy'n gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. Hefyd unrhyw waith arall sydd i'w wneud i'r deml. |
| 34 |
| Dŷn ni (yr offeiriaid, Lefiaid a'r bobl gyffredin) wedi trefnu (drwy fwrw coelbren) pryd yn ystod y flwyddyn mae pob teulu i ddarparu coed i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw yn y deml, fel mae'n dweud yn y Gyfraith. |
| 35 |
| A dŷn ni'n addo hefyd y byddwn ni, bob blwyddyn, yn dod â ffrwythau cyntaf y tir a ffrwyth cyntaf pob coeden i deml yr ARGLWYDD. |
| 36 |
| Byddwn ni hefyd yn dod â'n meibion hynaf, a'r anifeiliaid cyntaf i gael eu geni, i deml Dduw i'w cyflwyno i'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yno, fel mae'r Gyfraith yn dweud. |
| 37 |
| Byddwn hefyd yn rhoi y gorau o'n toes, grawn, ffrwythau, sudd grawnwin ac olew olewydd, i'r offeiriaid yn stordai teml ein Duw. A hefyd un rhan o ddeg o'n cnydau i'w rhoi i'r Lefiaid (gan mai'r Lefiaid sy'n casglu'r ddegfed ran yn y trefi lle dŷn ni'n gweithio.) |
| 38 |
| Bydd offeiriad — un o ddisgynyddion Aaron — gyda'r Lefiaid pan mae'r gyfran yma'n cael ei gasglu. Yna bydd y Lefiaid yn mynd â degfed ran o'r hyn gasglwyd i stordai teml Dduw. |
| 39 |
| Bydd pobl Israel a'r Lefiaid yn mynd â'r cyfraniadau yma (o rawn, sudd grawnwin, ac olew olewydd) i'r stordai lle mae holl offer y deml yn cael ei gadw. Dyna hefyd lle mae'r offeiriaid, gofalwyr y giatiau a'r cantorion yn aros. Dŷn ni'n addo na fyddwn ni'n esgeuluso teml ein Duw.” |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/nehemiah/010.mp3
13
10