Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Roedd arweinwyr y bobl wedi setlo yn Jerwsalem. A dyma gweddill y bobl yn taflu coelbren i benderfynu pwy arall oedd i symud i fyw i'r ddinas gysegredig. Roedd un o bob deg i fynd i Jerwsalem, a'r gweddill i fyw yn y trefi eraill. |
| 2 |
| A dyma'r bobl yn bendithio'r dynion hynny wnaeth wirfoddoli i aros yn Jerwsalem. |
| 3 |
| Dyma restr o arweinwyr y dalaith wnaeth setlo yn Jerwsalem (Roedd y rhan fwya o bobl Israel yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda — a'r offeiriaid, Lefiaid, gweithwyr y deml, a disgynyddion gweision Solomon. |
| 4 |
| Ond symudodd rhai o ddisgynyddion Jwda a Benjamin i fyw yn Jerwsalem.) O lwyth Jwda: Athaia fab Wseia (mab Sechareia, mab Amareia, mab Sheffateia, mab Mahalal-el, o glan Perets); |
| 5 |
| Maaseia fab Barŵch (mab Colchose, mab Chasaia, mab Adaia, mab Ioiarîf, mab Sechareia, o glan Shela fab Jwda). |
| 6 |
| (Cyfanswm disgynyddion Perets, y bobl ddewr wnaeth setlo yn Jerwsalem oedd 468.) |
| 7 |
| O lwyth Benjamin: Salw fab Meshwlam (mab Ioed, mab Pedaia, mab Colaia, mab Maaseia, mab Ithiel, mab Ieshaia,) |
| 8 |
| a'r rhai oedd yn ei ddilyn, Gabai a Salai — 928 i gyd. |
| 9 |
| (Joel fab Sichri oedd y swyddog oedd yn gyfrifol amdanyn nhw, a Jwda fab Hasenŵa oedd ei ddirprwy yn y ddinas.) |
| 10 |
| O'r offeiriaid: Idaïa fab Ioiarîf, Iachin, |
| 11 |
| Seraia fab Chilceia (mab Meshwlam, mab Sadoc, mab Meraioth, mab Achitwf) sef archoffeiriad teml Dduw, |
| 12 |
| a'i perthnasau oedd yn gweithio gyda nhw yn y deml — 822. Adaia fab Ierocham (mab Pelaleia, mab Amtsi, mab Sechareia, mab Pashchwr, mab Malcîa), |
| 13 |
| a'i perthnasau oedd yn arweinwyr y clan — 242; Amash'sai fab Asarel (mab Achsai, mab Meshilemoth, mab Immer,) |
| 14 |
| a'i berthnasau, y dynion dewr eraill oedd yn gweithio gydag e — 128. (Safdiel fab Hagedolîm oedd y swyddog yn gyfrifol amdanyn nhw). |
| 15 |
| O'r Lefiaid: Shemaia fab Chashwf (mab Asricam, mab Chashafeia fab Bwnni); |
| 16 |
| Shabbethai a Iosafad, arweinwyr y Lefiaid, oedd yn gyfrifol am y gwaith allanol ar deml Dduw; |
| 17 |
| Mataneia fab Micha (mab Sabdi ac ŵyr i Asaff), oedd yn arwain y gweddi ar mawl; Bacbwceia oedd ei ddirprwy; ac Afda fab Shammwa (mab Galal, mab Iedwthwn). |
| 18 |
| (Cyfanswm y Lefiaid oedd yn byw yn y ddinas sanctaidd oedd 284). |
| 19 |
| Yna gofalwyr y giatiau: Accwf, Talmon a'r rhai oedd yn gwarchod y giatiau gyda nhw — 172. |
| 20 |
| Roedd gweddill pobl Israel, a gweddill yr offeiriad a'r Lefiaid, yn byw yn eu tai eu hunain yn y trefi eraill yn Jwda. |
| 21 |
| Roedd gweithwyr y deml yn byw yn Offel, a Sicha a Gishpa oedd yn gyfrifol amdanyn nhw. |
| 22 |
| Rheolwr y Lefiaid yn Jerwsalem oedd Wssi fab Bani (mab Chashafeia, mab Mataneia, mab Micha), oedd yn un o ddisgynyddion Asaff, sef y cantorion oedd yn arwain yr addoliad yn nheml Dduw. |
| 23 |
| Roedd brenin Persia wedi gorchymyn fod cyfran i'w roi iddyn nhw bob dydd. |
| 24 |
| Ac roedd Pethacheia fab Meshesafel (o glan Serach o lwyth Jwda) ar gael i roi cyngor i'r brenin am faterion yn ymwneud â'r bobl. |
| 25 |
| I droi at y pentrefi a'r tiroedd o'u cwmpas nhw: Dyma bobl llwyth Jwda yn setlo yn Ciriath-arba a'r pentrefi o'i chwmpas, Dibon a'i phentrefi, Icaftseël a'i phentrefi, |
| 26 |
| Ieshŵa, Molada, Beth-pelet, |
| 27 |
| Chatsar-shwal, a Beersheba a'i phentrefi, |
| 28 |
| Siclag a Mechona a'i phentrefi, |
| 29 |
| En-rimmon, Sora, Iarmwth, |
| 30 |
| Sanoach, Adwlam, a'u pentrefi. Lachish a'i thiroedd, ac Aseca a'i phentrefi. Roedden nhw wedi setlo drwy'r wlad i gyd, o Beersheba yn y de i ddyffryn Hinnom yn y gogledd. |
| 31 |
| Dyma bobl llwyth Benjamin yn setlo yn Geba, Michmas, Ai, a Bethel a'i phentrefi, |
| 32 |
| yn Anathoth, Nob, Ananeia, |
| 33 |
| Chatsor, Rama, Gittaïm, |
| 34 |
| Hadid, Seboïm, Nefalat, |
| 35 |
| Lod, Ono, a Dyffryn y Crefftwyr. |
| 36 |
| A dyma rai o'r Lefiaid oedd yn Jwda yn symud i fyw i Benjamin. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/nehemiah/011.mp3
13
11