Y diwrnod hwnnw, yn ystod y darlleniad o lyfr Moses i'r bobl, cafwyd ei bod yn ysgrifenedig nad oedd Ammoniaid na Moabiaid byth i ddod i mewn i gynulleidfa Duw,
am na ddaethant i gyfarfod 'r Israeliaid bwyd a diod, eithr yn hytrach gyflogi Balaam yn eu herbyn, i'w melltithio; ond fe drodd ein Duw y felltith yn fendith.
Yr oedd ef yn perthyn i Tobeia, ac wedi rhoi iddo ystafell fawr lle gynt y cedwid y bwydoffrwm a'r thus, y llestri a degwm yr u375?d, y gwin a'r olew oedd yn ddyledus i'r Lefiaid ac i'r cantorion a'r porthorion, a'r cyfraniad ar gyfer yr offeiriaid.
Yr adeg honno nid oeddwn i yn Jerwsalem, oherwydd yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artaxerxes brenin Babilon yr oeddwn wedi mynd at y brenin. Ychydig yn ddiweddarach gofynnais ei ganiatd i ddychwelyd.
Darganfm hefyd nad oedd y Lefiaid wedi derbyn eu cyfrannau, a'u bod hwy a'r cantorion oedd yn gyfrifol am y gwasanaethau wedi mynd i ffwrdd i'w ffermydd.
Ac etholais yn drysoryddion Selemeia yr offeiriad, Sadoc yr ysgrifennydd, a Pedaia y Lefiad, a Hanan fab Saccur, fab Metaneia i'w cynorthwyo, oherwydd fe'u cyfrifid yn rhai dibynadwy, a'u dyletswydd hwy oedd rhannu i'w brodyr.
Yn y dyddiau hynny gwelais ddynion yn Jwda yn sathru gwinwryf ar y Saboth, ac yn pentyrru grawn, ac yn llwytho asynnod gwin, grawnwin, ffigys, a phob math o feichiau, ac yn eu cario i Jerwsalem ar y dydd Saboth. Rhybuddiais hwy am werthu bwyd ar y dydd hwn.
Onid dyma a wnaeth eich hynafiaid fel y daeth ein Duw 'r holl ddrwg hwn arnom ni ac ar y ddinas hon? Yr ydych yn dod mwy eto o lid ar Israel trwy halogi'r Saboth."
Yna, cyn dechrau'r Saboth, fel yr oedd yn nosi dros byrth Jerwsalem, gorchmynnais gau'r drysau, ac nad oedd neb i'w hagor cyn diwedd y Saboth. A gosodais rai o'm llanciau wrth y pyrth fel na chi dim ei gario i mewn ar y dydd Saboth.
ond rhybuddiais hwy a dweud, "Pam yr ydych yn gwersyllu yn ymyl y mur? Os gwnewch hyn eto fe'ch cosbaf chwi." o'r dydd hwnnw ymlaen ni ddaethant ar y Saboth.
A gorchmynnais i'r Lefiaid eu puro eu hunain a dod i wylio'r pyrth, er mwyn cadw'r dydd Saboth yn sanctaidd. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn dy drugaredd fawr.
Ceryddais hwy a'u melltithio, a tharo rhai ohonynt a thynnu eu gwallt; gwneuthum iddynt gymryd llw yn enw Duw i beidio rhoi eu merched i feibion yr estron, na chymryd eu merched hwy i'w meibion nac iddynt eu hunain.
"Onid o achos merched fel hyn," meddwn, "y pechodd Solomon brenin Israel? Ni fu brenin tebyg iddo ymysg yr holl genhedloedd, yn un yr oedd Duw yn ei garu, ac wedi ei wneud ganddo yn frenin ar Israel gyfan; eto fe wnaeth merched estron iddo yntau bechu.