Yna dechreuodd Eliasib yr archoffeiriad a'i gyd-offeiriaid ailgodi Porth y Defaid; gosodasant ei gilbyst a rhoi ei ddorau yn eu lle, ac atgyweirio hyd at Du373?r y Cant a Thu373?r Hananel.
Yn eu hymyl hwy yr oedd Meremoth fab Ureia fab Cos yn atgyweirio, ac yn ei ymyl ef Mesulam, fab Berecheia, fab Mesesabel, ac yn ei ymyl yntau yr oedd Sadoc fab Bana yn atgyweirio.
Yn ei ymyl ef yr oedd Usiel fab Harhaia, un o'r gofaint aur, ac yn ei ymyl yntau Hananeia, un o'r apothecariaid; hwy oedd yn trwsio Jerwsalem hyd at y Mur Llydan.
Hwy hefyd a atgyweiriodd y mur am fil o gufyddau hyd at Borth y Dom. Ond atgyweiriwyd Porth y Dom gan Malacheia fab Rechab, rheolwr rhanbarth Beth-hacerem; fe'i hail-gododd a gosod ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau.
At-gyweiriwyd Porth y Ffynnon gan Salum fab Colchose, rheolwr rhanbarth Mispa; fe'i hailgododd a rhoi to arno a gosod ei ddorau yn eu lle gyda'r cloeau a'r barrau; cododd fur Pwll Selach wrth ardd y brenin hyd at y grisiau sy'n arwain i lawr o Ddinas Dafydd.
Ar ei l ef atgyweiriodd Nehemeia fab Asbuc, rheolwr hanner rhanbarth Beth-sur, hyd at le gyferbyn mynwent Dafydd a hyd at Bwll y Gloddfa ac at Du375?'r Cedyrn.
Ar eu hl hwy atgyweiriodd Benjamin a Hasub gyferbyn 'u tu375? eu hunain. Ar eu hl hwy atgyweiriodd Asareia fab Maaseia, fab Ananeia, gyferbyn 'i du375? ei hun.
Palal fab Usai oedd yn atgyweirio gyferbyn 'r drofa a'r tu373?r sy'n codi o du375? uchaf y brenin ac yn perthyn i gyntedd y gwarchodlu. Ar ei l ef atgyweiriodd Pedaia fab Paros
Ar ei l ef atgyweiriodd Hananeia fab Selemeia a Hanun, chweched mab Salaff, ddwy ran. Ar ei l yntau atgyweiriodd Mesulam fab Berecheia gyferbyn 'i lety.
Ar ei l ef atgyweiriodd Malcheia, y gof aur, hyd at du375?'r Nethiniaid a'r marchnatwyr, gyferbyn Phorth y Cynnull hyd at yr oruwchystafell ar y gongl.