Pan glywodd Sanbalat a Tobeia a Gesem yr Arabiad a'r gweddill o'n gelynion fy mod wedi ailgodi'r mur ac nad oedd yr un bwlch ar l ynddo er nad oeddwn y pryd hwnnw wedi gosod dorau ar y pyrth
Anfonais negeswyr atynt gyda'r ateb, "Y mae gennyf waith pwysig ar dro, felly ni allaf ddod i lawr. Pam y dylai'r gwaith gael ei atal tra wyf fi yn ei adael ac yn dod i lawr atoch chwi?"
yn cynnwys y neges hon: "Yn l Gasmu y mae si ymysg y cenhedloedd dy fod ti a'r Iddewon yn bwriadu gwrthryfela, ac mai dyna pam yr wyt yn ailgodi'r mur. Dywedir hefyd dy fod ti dy hun am fod yn frenin arnynt,
a'th fod wedi penodi proffwydi i gyhoeddi yn Jerwsalem a dweud, 'Y mae brenin yn Jwda.' Bydd y brenin yn sicr o glywed am hyn; felly tyrd, a gad i ni ymgynghori 'n gilydd."
Pan euthum i du375? Semaia fab Delaia, fab Mehetabel, oedd wedi ei gaethiwo i'w gartref, dywedodd wrthyf, "Gad i ni gyfarfod yn nhu375? Dduw, y tu mewn i'r cysegr, a chau drysau'r deml, oherwydd y maent yn dod i'th ladd, yn dod i'th ladd liw nos."
Pan glywodd ein holl elynion, a phan welodd yr holl genhedloedd o'n hamgylch, yr oedd y peth yn rhyfeddol yn eu golwg, a daethant i ddeall mai trwy gymorth ein Duw y cafodd y gwaith hwn ei wneud.
oherwydd yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef am ei fod yn fab-yng-nghyfraith i Sechaneia fab Ara, a'i fab Jehohanan wedi priodi merch Mesulam fab Berecheia.