Beibl Cymraeg 2023
|
| 1 |
| Roedd hi'r cyfnod pan oedd Ahasferus yn frenin Persia (Dyma'r Ahasferus oedd yn teyrnasu ar gant dau ddeg saith o daleithiau o India i Affrica.) |
| 2 |
| Roedd yn teyrnasu o'r gaer ddinesig yn Shwshan. |
| 3 |
| Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma fe'n cynnal gwledd fawr i'w swyddogion i gyd. Roedd penaethiaid byddin Persia a Media yno, a llywodraethwyr y taleithiau, a phawb arall o bwys. |
| 4 |
| Roedd Ahasferus eisiau i bawb oedd yno wybod mor bwysig ac mor anhygoel gyfoethog oedd e, a'i weld yn ei holl ysblander brenhinol. Parodd y dathliadau am amser hir — chwe mis cyfan i fod yn fanwl gywir. |
| 5 |
| Yna ar ddiwedd y chwe mis dyma fe'n cynnal gwledd oedd yn para am wythnos. Roedd pawb oedd yn Shwshan ar y pryd yn cael mynd, o'r bobl fawr i'r bobl fwya cyffredin. Roedd y wledd yn cael ei chynnal yn yr iard yng ngerddi'r palas brenhinol. |
| 6 |
| Roedd pobman wedi ei addurno gyda llenni o liain main gwyn a phorffor. Roedd cylchoedd arian yn dal y llenni ar gordyn wedi ei wneud o liain main a gwlân porffor, ac roedden nhw'n hongian rhwng colofnau marmor. Ac roedd soffas o aur ac arian ar balmant hardd oedd â phatrymau trwyddo o feini ffelsbar, marmor, mam y perl, a cherrig lliwgar eraill. |
| 7 |
| Roedd pobl yn yfed diodydd o gwpanau aur, ac roedd digonedd o'r gwin brenhinol gorau i bawb, a'r brenin yn talu am y cwbl. |
| 8 |
| Gallai pobl yfed faint fynnen nhw. Roedd y brenin wedi dweud wrth y wetars i gyd am roi i bawb faint bynnag oedden nhw eisiau. |
| 9 |
| Ar yr un pryd roedd y Frenhines Fasti yn cynnal gwledd i'r gwragedd i gyd ym mhalas y Brenin Ahasferus. |
| 10 |
| Ar ddiwrnod ola'r wledd roedd y gwin wedi mynd i ben y brenin, a dyma fe'n gorchymyn ei saith ystafellydd (sef Mehwman, Bistha, Harbona, Bigtha, Abagtha, Sethar, a Carcas) |
| 11 |
| i ddod â'r frenhines Fasti o'i flaen, yn gwisgo ei choron frenhinol. Roedd y brenin eisiau i'w westeion a'i swyddogion weld mor hardd oedd hi — roedd hi'n wraig hynod o ddeniadol. |
| 12 |
| Ond pan ddwedodd yr ystafellyddion wrthi beth oedd y brenin eisiau dyma'r frenhines yn gwrthod mynd. Roedd y brenin wedi gwylltio'n lân — roedd yn gynddeiriog! |
| 13 |
| Dyma fe'n galw ei gynghorwyr ato — dynion doeth oedd yn deall yr amserau. (Roedd yn arfer gan frenin ofyn am gyngor dynion oedd yn arbenigwyr yn y gyfraith.) |
| 14 |
| Y dynion agosaf ato oedd Carshena, Shethar, Admatha, Tarshish, Meres, Marsena, a Memwchan. Nhw oedd uchel-swyddogion Persia a Media, y dynion mwyaf dylanwadol yn y deyrnas, ac roedden nhw'n cyfarfod gyda'r brenin yn rheolaidd. |
| 15 |
| Dyma'r brenin yn gofyn iddyn nhw, “Beth ddylai ddigwydd i'r Frenhines Fasti? Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud pan mae brenhines yn gwrthod gwneud beth mae'r brenin yn ei orchymyn?” |
| 16 |
| Dyma Memwchan yn ymateb, “Nid dim ond y brenin sydd wedi ei sarhau gan y frenhines Fasti. Mae hi wedi pechu yn erbyn y swyddogion a'r bobl i gyd o'r taleithiau sy'n cael eu rheoli gan y brenin Ahasferus. |
| 17 |
| Bydd gwragedd ym mhob man yn clywed am y peth a gwneud yr un fath, a dangos dim parch at eu gwŷr. Byddan nhw'n dweud, ‘Os ydy'r frenhines Fasti ddim yn ufuddhau i'w gŵr hi, y brenin Ahasferus, pam ddylen ni?’ |
| 18 |
| Cyn diwedd y dydd bydd gwragedd uchel-swyddogion Persia a Media yn clywed beth wnaeth y frenhines, ac yn gwneud yr un fath i'w gwŷr! Fydd yna ddim diwedd ar y sarhau a'r ffraeo! |
| 19 |
| Os ydy'r brenin yn cytuno, dylai anfon allan ddatganiad brenhinol am y peth, a'i ysgrifennu yn llyfrau cyfraith Persia a Media, fel bod dim modd ei newid. Ddylai Fasti ddim cael gweld y brenin Ahasferus byth eto, a dylai'r brenin roi ei theitl i rywun arall fyddai'n frenhines well na hi. |
| 20 |
| Dylai dyfarniad y brenin gael ei gyhoeddi drwy'r deyrnas fawr yma'n gyfan. Wedyn bydd gwragedd yn parchu eu gwŷr, beth bynnag ydy eu safle cymdeithasol nhw.” |
| 21 |
| Roedd y brenin a'r swyddogion eraill yn hoffi awgrym Memwchan, felly dyna wnaeth e. |
| 22 |
| Anfonodd lythyrau allan i'r taleithiau i gyd. Roedd pob llythyr wedi ei ysgrifennu yn iaith y dalaith honno. Roedd yn dweud fod pob dyn i reoli ei deulu ei hun, ac y dylid siarad ei famiaith e yn y cartref. |
|
| Cadw Nodiadau |
https://beblia.bible:81/BibleAudio/welsh2015/esther/001.mp3
10
1